Tudalen 7 o 9

Re: dIM LOL 08

PostioPostiwyd: Gwe 22 Awst 2008 5:01 pm
gan Ray Diota
Idris83 a ddywedodd:Mae;r ffaith bod Ray yn gorfod erfyn ar bobol i gyfrannu yn sad yn ei hun.


Wel coc y gath, methes i'r sylw coc 'ma. Y peth gore dwi di neud fel golygydd yw erfyn am gyfraniade - y rheswm 'ma dim lol leni'n gwd show yw achos bo fi, ar ol tair blynedd o erfyn, wedi cal cyfraniade amrywiol gan nifer fawr o wahanol bobol sy'n neud i fi chwerthin. Ma'r pethe sy'n cal clod arbennig uchod oll wedi cal 'u sgwennu gan bobol gwahanol - 'na pam ma fe'n llwyddiant 'chan! A dim jyst cyfraniade, ond syniade a pytie bach hefyd. Os oes rhaid i fi hwrio'n hunan ar faes-e i gal nhw, dyna wnai... a jolch yn fawr i chi gyd.

DWi jyst ddim yn deall pam bod Ray yn derbyn diolch am be mae o'n wneud.Be wyt ti'n neud heblaw am ofyn am storis pobol a sgwennu nhw a rhoi "pwrs" a "jiawch" "jiawled" mewn brawddeg a bod yn flin os na di rhywun yn licio dy fagasîn cachu wanc di.


:lol: Ti di camddeall - wy'n cal mwy o bleser mas o weld pobol sy' ddim yn licio fe 'chan! :lol: A ma angen 'gog alert' go iawn ar dy ail frawddeg di, ma ishe i rai gogs ddeall nad eich acen chi yw'r default setting Cymraeg. *diwedd y gog rant* A tha beth, odd 'na elfen gog swmpus leni i gadw chi'n hapus...

O ran pam ydwi'n derbyn diolch... dwi'n aelod o'r Mark Ronson School of Thought, sy'n galluogi ni i neud ffyc ol a derbyn y clod i gyd yn pen draw. Joio. Ond o ddifri - pwy fydde'n cymrd y shit i gyd se fe'n crap? Manaman i fi joio'r ffaith bo fi di neud rhwbeth yn iawn am unwaith, ife!

Re: dIM LOL 08

PostioPostiwyd: Mer 27 Awst 2008 3:34 pm
gan løvgreen
Ga'i eilio'r sylwadau - fel un sy'n ddigon hen i fod wedi darllen y rhan fwya o rifynnau Lol / DimLol, roedd rhifyn eleni yn un o'r rhai da! Digon o stwff i neud i rywun chwerthin, a llai o ymosodiadau personol dan-din diangen nag mewn ambell rifyn yn y gorffennol. Ti wedi gosod safon uchel i ti dy hun rwan, Ray!

Re: dIM LOL 08

PostioPostiwyd: Mer 27 Awst 2008 4:03 pm
gan Mr Gasyth
obi wan a ddywedodd:Llyncu geiriau! Go dda'r Cymro heddiw am brintio'r stori -- ac andros o stori ydyw.


Heb weld Y Cymro wythnos yma/dwetha. Pa stori ydi hon?

Re: dIM LOL 08

PostioPostiwyd: Mer 27 Awst 2008 8:26 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
os o'sa rywun sy' ar fin ailgylchu'u copi nhw o dim lol, 'swn i'n gwerthfawrogi'n fawr 'sa nhw'n ei basio 'mlaen i fi gynta'...? gollish i 'nghopi ddydd gwenar ola'r steddfod, ym mar y maes, a finna' heb orffan 'i ddarllan eto...!
'sgin unrhywun un sbar?! :|

Re: dIM LOL 08

PostioPostiwyd: Gwe 29 Awst 2008 10:53 am
gan Creyr y Nos
Da iawn, rhifyn gwych. Yr holiadur 'faint o gymro ydach chi' oedd un o'r uchafbwntiau - "a holiday for a religious figure? get back to work you lazy c**t, this isn't France!!"

Re: dIM LOL 08

PostioPostiwyd: Gwe 29 Awst 2008 11:29 am
gan Mr Gasyth
Creyr y Nos a ddywedodd:Da iawn, rhifyn gwych. Yr holiadur 'faint o gymro ydach chi' oedd un o'r uchafbwntiau - "a holiday for a religious figure? get back to work you lazy c**t, this isn't France!!"


a

'boi iawn sbo. fi yn beio fe am Wedi 3 though'

Re: dIM LOL 08

PostioPostiwyd: Gwe 29 Awst 2008 3:57 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:os o'sa rywun sy' ar fin ailgylchu'u copi nhw o dim lol, 'swn i'n gwerthfawrogi'n fawr 'sa nhw'n ei basio 'mlaen i fi gynta'...? gollish i 'nghopi ddydd gwenar ola'r steddfod, ym mar y maes, a finna' heb orffan 'i ddarllan eto...!
'sgin unrhywun un sbar?! :|

Crintachlyd iawn.

Re: dIM LOL 08

PostioPostiwyd: Gwe 29 Awst 2008 6:36 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:os o'sa rywun sy' ar fin ailgylchu'u copi nhw o dim lol, 'swn i'n gwerthfawrogi'n fawr 'sa nhw'n ei basio 'mlaen i fi gynta'...? gollish i 'nghopi ddydd gwenar ola'r steddfod, ym mar y maes, a finna' heb orffan 'i ddarllan eto...!
'sgin unrhywun un sbar?! :|

Crintachlyd iawn.

o, ffoc off :rolio:

Re: dIM LOL 08

PostioPostiwyd: Gwe 29 Awst 2008 7:49 pm
gan Prysor
clywch clywch! :lol:

Re: dIM LOL 08

PostioPostiwyd: Sad 30 Awst 2008 8:06 am
gan benni hyll
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:os o'sa rywun sy' ar fin ailgylchu'u copi nhw o dim lol, 'swn i'n gwerthfawrogi'n fawr 'sa nhw'n ei basio 'mlaen i fi gynta'...? gollish i 'nghopi ddydd gwenar ola'r steddfod, ym mar y maes, a finna' heb orffan 'i ddarllan eto...!
'sgin unrhywun un sbar?! :|

Crintachlyd iawn.

o, ffoc off :rolio:


Hollol, hollol berffaith
:D