Tudalen 9 o 9

Re: dIM LOL 08

PostioPostiwyd: Gwe 19 Meh 2009 4:29 pm
gan Ray Diota
Creyr y Nos a ddywedodd:
Ai yn y Steddfod fydd Sylw yn cael ei gyhoeddi?


canol gorffennaf ma Sylw'n dod mas, medde nhw wrtho fi...

Re: dIM LOL 08

PostioPostiwyd: Mer 24 Meh 2009 3:11 pm
gan Mihangel Macintosh
Be ydi Sylw te? Esboniad i ni sydd ddim in the know os gwewlch yn dda!

Re: dIM LOL 08

PostioPostiwyd: Mer 24 Meh 2009 3:41 pm
gan Ray Diota
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Be ydi Sylw te? Esboniad i ni sydd ddim in the know os gwewlch yn dda!


cylchgrawn newydd, materion cyfoes (?)

ddim yn gwbod may 'na 'ny...

ps - ateba dy negeseuon gweplyfr!

Re: dIM LOL 08

PostioPostiwyd: Mer 24 Meh 2009 3:43 pm
gan dawncyfarwydd
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Be ydi Sylw te? Esboniad i ni sydd ddim in the know os gwewlch yn dda!

Fatha Barn. Mae'r Lolfa wedi gwneud cais am arian Barn, felly maen nhw'n cael rhyw fath o gystadleuaeth gwneud cylchgrawn materion cyfoes mae'n ymddangos.

Mae Barn yn wych bob mis felly dwi ddim yn gweld pam mae'r Lolfa'n ceisio tanseilio a diddymu, i bob pwrpas, y cylchgrawn. Ymddangos yn dan-dîn iawn i fi.

Re: dIM LOL 08

PostioPostiwyd: Mer 24 Meh 2009 3:56 pm
gan Ray Diota
dawncyfarwydd a ddywedodd:
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Be ydi Sylw te? Esboniad i ni sydd ddim in the know os gwewlch yn dda!

Fatha Barn. Mae'r Lolfa wedi gwneud cais am arian Barn, felly maen nhw'n cael rhyw fath o gystadleuaeth gwneud cylchgrawn materion cyfoes mae'n ymddangos.

Mae Barn yn wych bob mis felly dwi ddim yn gweld pam mae'r Lolfa'n ceisio tanseilio a diddymu, i bob pwrpas, y cylchgrawn. Ymddangos yn dan-dîn iawn i fi.


:lol: :o :lol: 'na ti blydi nonsens - dyw ymgeisio am arian cyhoeddus (nid 'arian Barn' yw e, cofia!) ddim yn dan din...!

dwi'n cytuno 'da ti am Barn y dyddie 'ma - fel ma Vaughan Roderick yn dweud ar ei flog, falle mai'r gystadleuaeth sy 'di hala chwa o awyr iach trwy'r cylchgrawn...

Re: dIM LOL 08

PostioPostiwyd: Mer 24 Meh 2009 4:09 pm
gan sian
Dw i ddim yn meddwl y galli di weld bai ar y Lolfa am dreio - ond os ydi hi'n wir bod y grant yn cael ei roi trwy gymharu un rhifyn enghreifftiol o gylchgrawn y Lolfa â rhifynnau arferol Barn, dyw hynny ddim i weld yn deg iawn.

Erthygl yma'n rhoi safbwynt Barn.

Re: dIM LOL 08

PostioPostiwyd: Llun 06 Gor 2009 10:39 am
gan Creyr y Nos
sian a ddywedodd:Dw i ddim yn meddwl y galli di weld bai ar y Lolfa am dreio - ond os ydi hi'n wir bod y grant yn cael ei roi trwy gymharu un rhifyn enghreifftiol o gylchgrawn y Lolfa â rhifynnau arferol Barn, dyw hynny ddim i weld yn deg iawn.


Nadi mae'n siwr, er ei bod hi'n anodd gweld sut arall i gymharu ceisiadau. Mae'r ffaith bod gan barn track record siwr o fod yn cydbwyso'r ffaith bod y lolfa'n cael amser hir i baratoi rhifyn engrheifftiol. Fydd e ddim tebyg i dimLol chwaith, yn anffodus! Gobeithio y bydd e nol ar ryw ffurf yng Nglyn Ebwy.