tabl Cyfnodol yr Elfennau hen enwau ac newydd]

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

tabl Cyfnodol yr Elfennau hen enwau ac newydd]

Postiogan robsciwen » Gwe 18 Gor 2008 3:28 pm

Hiya pobl,
Dyma rhestr o'r elfennau gyda hen enwau ac enwau newydd. Be wyt ti'n meddwl? Os enwiau eraill? Os rwyt ti eisiau copi fel tabl cyfnodol, gallwn i e-mailo un i ti.
hwyl
rob.
[rob_sciwen [at] yahoo.co.uk]

symbol enw emw hen c1850 enwiau eraill
newydd
H Hydrogen Ulai
He Hewliwm
Li Lithiwm Halddelid
Be Beryliwm
B Boron
C Carbon Ulyf ulw, ulwyn ulf
N Nitrogen Blorai blawr, trengnwy??
O Ocsigen Ufelai bywyr bywydwy
F Fflworin Lliforin Liorain
Ne Neon
Na Sodiwm Delhalod Halodsawd
Mg Magnesiwm Magnesim magnsawd gwrthsur, gogarthpaill, wrth surol
Al Alwminiwm Allog allogsawd
Si Silicon Callestrai celltawn
P Ffosfforws Llosnur Llosnor ffodiant
S Sylffur Llosfaen Mygfaen, brwmstaen ag ati
Cl Clorin Llasnwy Trengnwy, Mognwys, glaswt
Ar Argon
K potasiwm Delwygnur trwythludw, gwygnur
Ca Calsiwm Calchid calchddelid
Sc Scandiwm
Ti Titaniwm Titanim
V Fanadiwm Gwanad
Cr Cromiwm Gneddelid
Mn Manganis Mang-ganis manganys, claerwydrai
Fe Haearn
Co Cobalt
Ni Nicel Niccel
Cu Efydd copr efyddyn
Zn sinc Afrytal singc
Ga Galiwm
Ge Germaniwm
As Arsenig
Se Seleniwm Cristyfaen
Br Bromin
Kr Crypton
Rb Rwbidiwm
Sr Strontiwm Ystrontim
Y Ytriwm Yttrim
Zr Siconiwm Sircon
Nb Niobiwm
Mo Molybdeniwm Molybden
Tc Tecnetiwm
Ru Rutheniwm
Rh Rhodiwm Rhosddelid
Pd Paladiwm Palad
Ag Arian
Cd Cadmiwm Cadmin
In Indiwm
Sn Tun Alcan Alcam [Cwm Nedd a Thawe]
Sb Antimoni Delydr
Te Telwriwm Telurim
I Iodin Llyrgris
Xe Senon
Cs Cesiwm
Ba Bariwm Barim
La Lanthaniwm
Hf Hafniwm
Ta Tantaliwm Tantal
W Twngsten Wulffram trymfaen
Re Rheniwm
Os Osmiwm Drewddelid
Ir Iridiwm Irid
Pt Platiwm Platin
Au Aur
Hg Mercwri Arian byw
Tl Thaliwm
Pb Plwm
Bi Bismwth
Po Poloniwm
At Astatin
Rn Radon
Fr Ffranciwm
Ra Radiwm
Ac Actiwm
Rf Rutherfordiwm
Db Dubniwm
Sg Seaborgiwm
Bh Bohriwm
Hs Hasiwm
Mt Meitneriwm
Uun
robsciwen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2008 2:38 pm

Re: tabl Cyfnodol yr Elfennau hen enwau ac newydd]

Postiogan Llefenni » Gwe 18 Gor 2008 3:36 pm

Waw Rob - ti sy' wedi bod yn casglu rhain i gyd? Mae nhw'n wych! Fel cael hen wyddoniadur o'r symbolau alchemy yna i gyd - eithaf spooky :D

Diolch am rannu!
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Re: tabl Cyfnodol yr Elfennau hen enwau ac newydd]

Postiogan ceribethlem » Gwe 18 Gor 2008 3:37 pm

Shwti robsciwen,
fi wedi golygu dy bost rhyw ychydig, gan ddangos dy gyfeiriad e-bost fel hyn
robsciwen a ddywedodd:[rob_sciwen [at] yahoo.co.uk]

er mwyn osgoi botiau rhag dy sbamio di.
Gobeithio nad oes ots gyda ti, byddai'n newid e' nol os wyt ti ishe.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: tabl Cyfnodol yr Elfennau hen enwau ac newydd]

Postiogan huwwaters » Gwe 18 Gor 2008 5:14 pm

Dau cywiriad bach, dwi'n meddwl:

Hewliwm --> Heliwm (Darganfuwyd yr elfen gyda'r Haul. Enw Groeg am yr haul Helios.)

Ocsigen --> Ocsygen (Wel, ma Geiriadur yr Academi'n deud ocsigen, ond mae llyfr arall yn deud ocsygen yn benodol fel gair sy'n cael ei gamsillafu'n amal.)
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: tabl Cyfnodol yr Elfennau hen enwau ac newydd]

Postiogan 7ennyn » Sul 20 Gor 2008 7:35 pm

Diddorol dros ben! Dwi'n hoff o 'trymfaen' ar gyfer twngsten. Gwaith da iawn!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: tabl Cyfnodol yr Elfennau hen enwau ac newydd]

Postiogan løvgreen » Maw 22 Gor 2008 3:11 pm

huwwaters a ddywedodd:Ocsigen --> Ocsygen (Wel, ma Geiriadur yr Academi'n deud ocsigen, ond mae llyfr arall yn deud ocsygen yn benodol fel gair sy'n cael ei gamsillafu'n amal.)

Ocsigen sy'n gywir (teipia ocsigen a nwy i mewn i Gwgl, gei di 622 enghraifft. Teipia ocsygen a nwy a gei di 6). 'Ocsigen' medd y Termiadur a phob rhestr termau safonol. Dydi dweud bod "llyfr arall" yn dweud 'ocsygen' ddim yn llawer o ddadl nachdi?
Rhithffurf defnyddiwr
løvgreen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 863
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2003 11:08 pm

Re: tabl Cyfnodol yr Elfennau hen enwau ac newydd]

Postiogan huwwaters » Maw 22 Gor 2008 9:03 pm

løvgreen a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:Ocsigen --> Ocsygen (Wel, ma Geiriadur yr Academi'n deud ocsigen, ond mae llyfr arall yn deud ocsygen yn benodol fel gair sy'n cael ei gamsillafu'n amal.)

Ocsigen sy'n gywir (teipia ocsigen a nwy i mewn i Gwgl, gei di 622 enghraifft. Teipia ocsygen a nwy a gei di 6). 'Ocsigen' medd y Termiadur a phob rhestr termau safonol. Dydi dweud bod "llyfr arall" yn dweud 'ocsygen' ddim yn llawer o ddadl nachdi?


Y llyfr Lewisiana, http://www.gwales.com/goto/biblio/cy/9781845120351/ o dan y pennod penodol "Geiriau a gamsillafir yn amal".
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: tabl Cyfnodol yr Elfennau hen enwau ac newydd]

Postiogan løvgreen » Mer 23 Gor 2008 10:44 am

Dwi'n meddwl y byswn i'n derbyn awdurdod Geiriadur yr Academi a'r Termiadur cyn llyfr trifia. :winc:

Ond diolch am y rhestr, robsciwen - mae'n wych!
Rhithffurf defnyddiwr
løvgreen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 863
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2003 11:08 pm

Re: tabl Cyfnodol yr Elfennau hen enwau ac newydd]

Postiogan robsciwen » Iau 24 Gor 2008 11:34 am

Hia,
Roedd hewliwm yn camgymriad teipio. Swd gallwn i "down loado" tabl cyfnodol go iawn?
diolch,
Rob
robsciwen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2008 2:38 pm

Re: tabl Cyfnodol yr Elfennau hen enwau ac newydd]

Postiogan Rhys » Sul 27 Gor 2008 9:44 am

Dyma'r wybodaeth ar ffurf tabl o'r Wicipedia.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd


Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai