Enwau rhyfedd

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Enwau rhyfedd

Postiogan Kez » Iau 24 Gor 2008 2:02 pm

Mae’n debyg bod y llysoedd yn Seland Newydd yn gallu stopio rhieni rhag rhoi enwau twp ar eu plant. Daeth un achos lan yn ddiweddar lle’r oedd y groten naw mlwydd oed ‘ma isha newid ei henw bedydd o ‘Talula Does The Hula From Hawaii’ i rywbeth gwell – cris croes tan poeth; dyma’r erthygl http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/asia-pacific/7522952.stm

Dyma restr o rai enwau gas eu derbyn a rhai gas eu gwrthod:

UNUSUAL NAMES

Allowed: Violence; Number 16 Bus Shelter; Midnight Chardonnay; Benson and Hedges (twins)

Blocked: Yeah Detroit; Stallion; Twisty Poi; Keenan Got Lucy; Sex Fruit; Fat Boy; Cinderella Beauty Blossom; Fish and Chips (twins)

Wi’n ffilu’n lan â deall shwt ‘nethon nhw ganiatáu Benson and Hedges fel enwau ar gyfer un pâr o efeilliaid a gwrthod yr enwau Fish and Chips ar gyfer pâr arall – rhyfedd o fyd.

Ma’r erthygl yn gofyn am gyfraniadau e-bost oddi wrth bobol ag enwau rhyfedd. Wi newydd ela un i mewn yn sôn am y drafferth a’r ing y bu rhaid ifi ddioddef wrth gal fy enwi’n ‘Dobby The Snot Monster’. Gobeithio y byddan nhw’n ei gyhoeddi fe :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Enwau rhyfedd

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 24 Gor 2008 2:11 pm

Haha mi welish i'r stori 'ma gynnar a chwerthin fel hogan arni. Yr enw gwaethaf dw i wedi'i glywed ar blentyn ydi Luxury Loopin, ond efallai bod Sex Fruit yn cystadlu am y goron honno :?

O edrych ar 'Fish and Chips' (efeilliaid), dwi bob amser wedi dweud pe ddaw'r anffawd o gael plant ataf y byddai'n eu galw nhw'n "Bacwn ac Wy", achos os awn ni ar goll yn y jwngwl a llwgu bydd hi'n llawer haws 'u byta nhw.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Enwau rhyfedd

Postiogan Manon » Iau 24 Gor 2008 2:30 pm

Violence? Sut ma' nhw 'di gadael hwnna, ond nid Cinderella Beauty Blossom?!
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Enwau rhyfedd

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 24 Gor 2008 2:40 pm

Achos, efo enw fel Violence, pwy ddiawl sydd am bigo arna chdi?

Dwi'n cachu brics yn clywed ei henw (ddim yn siwr pam dwi'n cymryd yn ganiataol mai enw hogan ydi hwn).
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Enwau rhyfedd

Postiogan Kez » Iau 24 Gor 2008 2:49 pm

own i'n cymeryd taw enw merch oedd Violence hefyd - wn i'm pam. Efallai roedd y rhieni isha rhoi'r enw Cinderella Beauty Blossom ar grwtyn a dyna pam gas e ei wrthod :?
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea


Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai