Be di'ch hoff gystadleuaeth ddibwynt o Steddfod 08?
Roedd rhai pobol wedi mynegi siom ar y radio nad oedd na'r un enaid wedi cystadlu yn y blog...pa ryfedd os nad oedd y gystadleuaeth wedi ei hysbysebu'n unrhywle (pwy goblyn sy'n darllen rhestr testunau eniwe?) a mwy at y pwynt, nad oedd be oedd yn ofynnol yn y gystadleuaeth - wait for it (sori am y Golwgtalics ) - yn flog yn y lle cyntaf! 10 allan o 10 am gamddealltwriaeth! Rwan, ewch nôl i ddyfeisio cystadleuaeth ddwl arall fel "sloganau slic" ne be bynnag (WTF?!). Ella ddylan nhw gynnwys "stori goc" (dim mwy na 1000 o eiriau) yn 2009.
A pwy rapper yn ei iawn bwyll sydd eisiau cystadlu ar lwyfan steddfod? Ma'r syniad yn wallgo.
Ma'r Steddfod yn elitist o ran y cystadlaethau, ac fel rhyw hen daid sy'n trio dawnsio i'r peth pop diweddara mewn disgo priodas, mae'n edrych yn ffwl ac yn insyltio intelijyns pobol wrth drio bod down with the kids. Ac os ma nhw isio pobol ddechra defnyddio'r lle fel cystadleuaeth ar gyfer ffurfiau mwy newydd o wneud pethau drwy'r Gymraeg yna dylan nhw o leia gymryd y petha yna o ddifri.
/rant