Wrthi'n dysgu'r nith caneuon Cymraeg ac mae hi wrth ei bodd hefo'r gan oddi ar y DVD Sali Mali (Cerys Matthews yn canu) ond mae na un neu ddau o eiriau dwi ddim yn siwr ohonnyn nhw - wedi gwglio ond heb di ffeindio nhw, sidro o ni os oedd unrhywun yma yn gallu helpu?
Dwi'n gwybod fod o'n mynd rhywbeth fel hyn:
Brysia paid oedi,
Mae'n amser stori,
Dacw Sali Mali gyda'i 'deryn bach Jac do.
(rhywbeth rhywbeth) yn crawcian,
Yn y coed tu allan,
Sali Mali sy' na gydai deryn bach jac do.
Jac do bach sy'n llawn direudi,
ond mae'n saff ym mreichiau Sali.
Dyna ffrindiau gorau (rhywbeth)
tyrd draw at Sali Mali gyda'i 'deryn bach Jac do.