Ffawd

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Ffawd

Postiogan HoganDre » Sul 31 Awst 2008 10:28 pm

Wrthi'n g'neud gwaith creadigol,a isho gwbod be ma pobl yn feddwl ydi diffiniad FFAWD.....

Mi fysai'n gret cal chydig o ymatab personol gan rywun!

Diolch
HoganDre
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Mer 21 Chw 2007 4:26 pm

Re: Ffawd

Postiogan dawncyfarwydd » Llun 01 Medi 2008 12:05 am

Cyd-ddigwyddiad ma rhywun yn licio meddwl bod 'na reswm tu ôl iddo fo.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Ffawd

Postiogan sian » Llun 01 Medi 2008 8:15 am

Dw i'n dechrau meddwl mai fy ffawd i yw rhoi benthyg llyfrau i bobl a pheidio cael nhw nol er bo fi'n gofyn yn neis lot o weithiau.

Sori - :wps:
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Ffawd

Postiogan Mr Gasyth » Llun 01 Medi 2008 10:49 am

Os da chi'n credu mewn ffawd da chi'n credu fod rhywbeth wedi eu raglunio, yn hytrach na'i fod yn ganlyniad i benderfyniadau a gweithredau pobl. H.y. byddai'n digwydd beth bynnag fyddai pobl yn ei wneud.

baswn i'n rhoi ffawd mewn cateogori tebyg i ofergoeliaeth, astroleg a chrefydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Ffawd

Postiogan Prysor » Maw 02 Medi 2008 6:20 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Os da chi'n credu mewn ffawd da chi'n credu fod rhywbeth wedi eu raglunio, yn hytrach na'i fod yn ganlyniad i benderfyniadau a gweithredau pobl. H.y. byddai'n digwydd beth bynnag fyddai pobl yn ei wneud.

baswn i'n rhoi ffawd mewn cateogori tebyg i ofergoeliaeth, astroleg a chrefydd.


sbot on, Gasyth

Ffawd v Ewyllys rhydd - hen hen ddadl ddiwinyddol rhwng Eglwys Rhufain a rhai aelodau amlwg o'r hen Eglwys Geltaidd. Ceisiwyd gwneud Pelagiws yn heretig am ddadlau dros Ewyllys Rhydd. Cyhuddwyd ef o "geisio atgyfodi athroniaeth y derwyddon." Dyna'r tystiolaeth tu ôl i ddadleuon rhai arbenigwyr Celtaidd (fel Peter Berresford Ellis) fod athroniaeth y derwyddon yn arddel Ewyllys Rhydd.

Ffawd - rhagluniaeth/pre-destination - fod Duw wedi mapio allan bywydau pawb yn barod, a dio'm bwys faint o ddrwg oeddach chi'n ei wneud, roeddach yn siwr o gael maddeuant yn y diwadd os oeddach yn repentio. Trafaeliodd Pelagiws o Brydain i Rufain, a gweld y bobl yno yn rhemp efo hedonistaiaeth a decadence. Dywedodd fod hynny'n engraifft o ffolineb pre-destination, achos fod bobol yn dewis byw yn 'bechadurus' wedyn cyfadda'u pechodau cyn marw, a dyna fo. Dadleuodd fod gan dyn y modd i ddewis rhwng da a drwg. Aeth hynny ddim i lawr yn dda efo'r powers that be...
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Ffawd

Postiogan Seonaidh/Sioni » Maw 02 Medi 2008 8:59 pm

Prysor a ddywedodd:Ffawd v Ewyllys rhydd - hen hen ddadl ddiwinyddol rhwng Eglwys Rhufain a rhai aelodau amlwg o'r hen Eglwys Geltaidd. Ceisiwyd gwneud Pelagiws yn heretig am ddadlau dros Ewyllys Rhydd. Cyhuddwyd ef o "geisio atgyfodi athroniaeth y derwyddon." Dyna'r tystiolaeth tu ôl i ddadleuon rhai arbenigwyr Celtaidd (fel Peter Berresford Ellis) fod athroniaeth y derwyddon yn arddel Ewyllys Rhydd.

Ffawd - rhagluniaeth/pre-destination - fod Duw wedi mapio allan bywydau pawb yn barod, a dio'm bwys faint o ddrwg oeddach chi'n ei wneud, roeddach yn siwr o gael maddeuant yn y diwadd os oeddach yn repentio. Trafaeliodd Pelagiws o Brydain i Rufain, a gweld y bobl yno yn rhemp efo hedonistaiaeth a decadence. Dywedodd fod hynny'n engraifft o ffolineb pre-destination, achos fod bobol yn dewis byw yn 'bechadurus' wedyn cyfadda'u pechodau cyn marw, a dyna fo. Dadleuodd fod gan dyn y modd i ddewis rhwng da a drwg. Aeth hynny ddim i lawr yn dda efo'r powers that be...

Dw i ddim yn credu fod Eglwys Rufain yn dilyn "ffawd" - yn hytrach, dw i'n credu eu bod yn derbyn ewyllys rhydd. Eu crefydd - mae pawb yn rhydd i bechu (neu beidio, wrth gwrs). Ffawd - mae popeth wedi mapio allan i chi - dyna Eglwys yr Alban, ac yn arbennig y "Wee Frees". Am Belagiws ac ati, swn i'n credu mai mater o wleidyddiaeth oedd y broblem rhwng Eglwys Rufain ac yr Eglwys Geltaidd. Dim byd yn ymwneud a ffawd neu dderwyddion.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Ffawd

Postiogan Prysor » Maw 02 Medi 2008 9:55 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:
Prysor a ddywedodd:Ffawd v Ewyllys rhydd - hen hen ddadl ddiwinyddol rhwng Eglwys Rhufain a rhai aelodau amlwg o'r hen Eglwys Geltaidd. Ceisiwyd gwneud Pelagiws yn heretig am ddadlau dros Ewyllys Rhydd. Cyhuddwyd ef o "geisio atgyfodi athroniaeth y derwyddon." Dyna'r tystiolaeth tu ôl i ddadleuon rhai arbenigwyr Celtaidd (fel Peter Berresford Ellis) fod athroniaeth y derwyddon yn arddel Ewyllys Rhydd.

Ffawd - rhagluniaeth/pre-destination - fod Duw wedi mapio allan bywydau pawb yn barod, a dio'm bwys faint o ddrwg oeddach chi'n ei wneud, roeddach yn siwr o gael maddeuant yn y diwadd os oeddach yn repentio. Trafaeliodd Pelagiws o Brydain i Rufain, a gweld y bobl yno yn rhemp efo hedonistaiaeth a decadence. Dywedodd fod hynny'n engraifft o ffolineb pre-destination, achos fod bobol yn dewis byw yn 'bechadurus' wedyn cyfadda'u pechodau cyn marw, a dyna fo. Dadleuodd fod gan dyn y modd i ddewis rhwng da a drwg. Aeth hynny ddim i lawr yn dda efo'r powers that be...



Dw i ddim yn credu fod Eglwys Rufain yn dilyn "ffawd" - yn hytrach, dw i'n credu eu bod yn derbyn ewyllys rhydd.


Dim yn y cyfnod dan sylw, Sioni. Rhagluniaeth (ffawd) oedd ffilosoffi Eglwys Rhufain bryd hynny. Mae'r holl beth wedi ei glirio i fyny, ac yn ddim byd ond mater o hollti blew diwinyddol, erbyn heddiw.

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Am Belagiws ac ati, swn i'n credu mai mater o wleidyddiaeth oedd y broblem rhwng Eglwys Rufain ac yr Eglwys Geltaidd.


Oedd, roedd o lot fawr i'w wneud â gwleidyddiaeth. Ond dydi hynny'n newid dim am y sylfaen oeddan nhw'n ddefnyddio i symud yn erbyn Pelagiws - sef ei fod yn hyrwyddo Ewyllys Rhydd, oedd yn groes i athroniaeth Eglwys Rhufain. Sef y pwynt oeddwn yn ei wneud.

O ran yr Eglwys Geltaidd ei hun (nid Pelagiws a'i ddilynwyr - sef pwy oeddwn yn gyfeirio at), roedd hi wedi derbyn athroniaeth Rhufain erbyn hynny. Oedd, mi oedd anfodlonrwydd, ac anghytundeb ar faterion gweinyddol, ac roedd llawer o arferion gwahanol - er engraifft, pwyslais cymunedol, cyfartal a gwledig yr Eglwys Geltaidd tra bod Eglwys Rhufain yn awdurdodol ac hierarchaidd, ac yn cyplysu swyddi eglwysig efo swyddi awdurdodol gwleidyddol. Ond doedd fawr ddim mwy na hynny yn achosi anniddigrwydd na gwrthdaro. Pelagiws symudon nhw yn ei erbyn, nid yr Eglwys Geltaidd.

Wna i ddim mynd ormod i mewn iddo, gan mai edefyn syml am ffawd yn benodol ydi hwn. Ond dichon yw dweud na lwyddodd Awgwstin i berswadio'r Pâb i ddatgan Pelagiws yn heretig (gan fod y gwahaniaethau rhwng y ddau ddoctrin yn eitha llwyd ac ymylol ar y pryd). Ond pan ddaeth Pâb newydd i rym, ac roedd yr amodau gwleidyddol yn ffafrio gwneud Pelagiws yn heretig, a'r ddadl rhwng Ewyllys Rhydd a Rhagluniaeth yn chwyrnach, mi alltudiwyd ef o Rufain. Gwleidyddiaeth, ie (mae dilynwyr Pelagiws wedi cael eu galw'n proto-socialists gan rai haneswyr), ond dio'n newid dim ar y ffaith fod Pelagiws yn hyrwyddo Ewyllys Rhydd, a Rhufain yn hyrwyddo Rhagluniaeth.

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Dim byd yn ymwneud a ffawd...


Oedd, roedd o i'w wneud â ffawd (ac ewyllys rhydd) oherwydd mai dyna oedd yr union reswm oeddan nhw'n ddefnyddio i geisio'i esgymuno fel heretig! A'r rheswm oeddan nhw'n defnyddio'r rheswm hynny oedd am ei fod yn groes i ddoctrin Rhufain. Ond yn yr ystyr ehangach, na, doedd o ddim i'w wneud â ffawd, ti'n hollol iawn.

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:... (dim byd i wneud efo)...derwyddon


Wel nagoedd siwr dduw! Cristion oedd Pelagiws!

Doeddwn ddim yn dweud ei fod o unrhyw beth i'w wneud â derwyddon, Sioni. Cyfeirio wnes at union eiriau'r esgob Awgwstin wrth ei gyhuddo o hyrwyddo Ewyllys Rhydd - oedd yn groes i Rhagluniaeth, doctrin Rhufain. "Ceisio atgyfodi hen athroniaeth y derwyddon," oedd ei union eiriau. (anghofiais y gair 'hen' yn y dyfyniad y tro cyntaf).

Gellid gweld cyfeirio at dderwyddiaeth fel propaganda gwrth-Belagiws, wrth gwrs, ond pam crybwyll 'hen athroniaeth y derwyddon' - allan o nunlla, ymhell wedi diflaniad grym y derwyddon - oni bai fod yr Eglwys Gynnar yn gyfarwydd a'r ffaith fod y derwyddon slawer dydd yn credu mewn Ewyllys Rhydd, ac oni bai fod dadlau wedi bod yn gynharach rhwng athronwyr o draddodiad derwyddol (oedd mwyaf tebyg yn Gristnogion eu hunain erbyn hynny, wrth gwrs) ac athronwyr Eglwysig?

Dyna pam fod haneswyr yn dyfalu os yw hyn, felly, yn dystiolaeth prin - ond gwerthfawr - o be oedd cred y derwyddon gynt. A bod y gred honno yn eitha canolog a sylfaenol, ac mewn gwrthdrawiad uniongyrchol â chred yr Eglwys sefydledig. Dyna pam, hefyd, mae nhw'n dyfalu os oedd a wnelo tuedd rhai yn yr Eglwys Geltaidd (a dilynwyr Pelagiws oddi mewn iddi, yn benodol) tuag at athroniaeth mwy hyblyg (megis Ewyllys Rhydd), yn deillio o feddylfryd athroniaeth cyn-Gristnogol.

Dyna'r unig bwynt oeddwn i'n ei wneud.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Ffawd

Postiogan Prysor » Maw 02 Medi 2008 11:00 pm

Rhaid cofio hefyd, fod Cristnogaeth wedi mabwysiadu ac addasu arferion, symbolau, ffynhonau sanctaidd, dyddiadau pwysig, chwedlau, a hyd yn oed sawl elfen 'athronyddol' (fel y Drindod, y Gair, etc) gan grefydd ac arferion y Celtiaid, a gwyddoniaeth naturiol y derwyddon. Doedd fawr ddim, bron, yn clashio rhwng y grefydd newydd â'r mynegiant symbolaidd o'r hen athroniaeth.

Roedd hen grefydd y Celtiaid yn rhywbeth arwahan i'r athroniaeth derwyddol. Hawdd iawn oedd i 'dderwyddon' fabwysiadu'r crefydd Cristnogol newydd - a'r majic ynghlwm efo'i defodau (oedd gan amlaf yn addasiadau o hen ddefodau cyn-Gristnogol beth bynnag!). Sonnir am sawl sant Celtaidd cynnar oedd hefyd yn dderwyddon - yn bennaf yn Iwerddon, ond yma yng Nghymru hefyd (e.e. Illtud Fawr). Gellir credu yng ngwyddoniaeth naturiol y ddaear tra hefyd fod yn Gristion. Beth yw crefydd, yn ei hanfod, ond mynegiant symbolaidd o'r byd o'n cwmpas?

Lle gynt oedd y duwiau'n cynrychioli elfennau gwahanol o natur, ac felly angen eu bodloni, rwan roedd duw newydd ar y bloc. Gallai'r athronwyr derwyddol dderbyn hwn fel symbol o'r Haul, Bydysawd a Natur, gan gymryd lle hen symbolau, fel Beli Mawr, efallai, pwy â ŵyr. Doedd fawr ddim yn wahanol yn y defodau. Bellach, dan Gristnogaeth, ysbrydion aflan oedd angen eu cadw draw, nid myrdd o dduwiau i'w bodloni. Arhosodd y defodau, ac arhosodd y gwir ystyr ymarferol tu ôl iddyn nhw - amddiffyn cnydau, teuluoedd, y llwyth, yr afon, y gwartheg etc.

Yng ngolwg y pragmatydd (a gellid derbyn fod y Brythoniaid yn go bragmataidd erbyn pedwaredd ganrif o reolaeth Rhufeinig!) doedd dim byd, go iawn, wedi newid. Yn enwedig gan fod prif addolbwynt y Celtiaid, eu prif dduwies, a'r symbol pwysicaf yng ngwyddoniaeth naturiol y derwyddon - dŵr - yn dal i gael eu 'addoli' gan y grefydd newydd ar ffurf ffynhonau sanctaidd y 'seintiau.

Be oedd yn wahanol, yn nhermau real, crefyddol, rhwng y Gred Newydd a'r hen ffyrdd o addoli, felly? Dim.

Felly pam fod Awgwstin yn cyhuddo Pelagiws, yn ei dystiolaeth dros 'heresi' Pelagiws, i'r Pâb, o "arfer hen athroniaeth y derwyddon" wrth hyrwyddo Ewyllys Rhydd?

Wel, yn nhermau athronyddol, gellid dadlau mai dyma oedd y gwahaniaeth athronyddol sylfaenol (yr unig, efallai?) rhwng yr Eglwys a'r athronwyr naturiol ymhlith y derwyddon. Ac mai dyma oedd y pwnc dadleuol, y dysan boeth, y maen tramgwydd rhwng y ddwy ochr, ar un adeg.

Gellir casglu, felly, fod Ewyllys Rhydd wedi bod yn un o elfennau canolog a sylfaenol athroniaeth y derwyddon cyn-Gristnogol.

(h.y. roedd dyn yn rhydd i ddewis gwrando, neu beidio, i ddilyn, neu beidio, yr arwyddion oedd ar gael iddo ymysg y sêr ac 'ofergoelion' tebyg - meddyliwch yn nhermau cyn-Gristnogol - a doedd dim ffawd wedi ei fapio allan iddo)

Sori - off subject, dwi'n gwbod! Ond ma'n ddifyr (i fi beth bynnag!) :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Ffawd

Postiogan Seonaidh/Sioni » Mer 03 Medi 2008 9:26 pm

O ai, ac i finnau! Ro'n i heb sylweddoli fod yr hen eglwys yn "ffodlon". Diolch am yr araith...
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Ffawd

Postiogan Prysor » Mer 03 Medi 2008 10:23 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:O ai, ac i finnau! Ro'n i heb sylweddoli fod yr hen eglwys yn "ffodlon". Diolch am yr araith...


Diolch i ti am ddarllen, cyfrannu, ysgogi, ysbrydoli, ymateb a deall be dwi'n fwydro amdano! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm


Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron