Wrthi'n g'neud gwaith creadigol,a isho gwbod be ma pobl yn feddwl ydi diffiniad FFAWD.....
Mi fysai'n gret cal chydig o ymatab personol gan rywun!
Diolch
Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd
Mr Gasyth a ddywedodd:Os da chi'n credu mewn ffawd da chi'n credu fod rhywbeth wedi eu raglunio, yn hytrach na'i fod yn ganlyniad i benderfyniadau a gweithredau pobl. H.y. byddai'n digwydd beth bynnag fyddai pobl yn ei wneud.
baswn i'n rhoi ffawd mewn cateogori tebyg i ofergoeliaeth, astroleg a chrefydd.
Prysor a ddywedodd:Ffawd v Ewyllys rhydd - hen hen ddadl ddiwinyddol rhwng Eglwys Rhufain a rhai aelodau amlwg o'r hen Eglwys Geltaidd. Ceisiwyd gwneud Pelagiws yn heretig am ddadlau dros Ewyllys Rhydd. Cyhuddwyd ef o "geisio atgyfodi athroniaeth y derwyddon." Dyna'r tystiolaeth tu ôl i ddadleuon rhai arbenigwyr Celtaidd (fel Peter Berresford Ellis) fod athroniaeth y derwyddon yn arddel Ewyllys Rhydd.
Ffawd - rhagluniaeth/pre-destination - fod Duw wedi mapio allan bywydau pawb yn barod, a dio'm bwys faint o ddrwg oeddach chi'n ei wneud, roeddach yn siwr o gael maddeuant yn y diwadd os oeddach yn repentio. Trafaeliodd Pelagiws o Brydain i Rufain, a gweld y bobl yno yn rhemp efo hedonistaiaeth a decadence. Dywedodd fod hynny'n engraifft o ffolineb pre-destination, achos fod bobol yn dewis byw yn 'bechadurus' wedyn cyfadda'u pechodau cyn marw, a dyna fo. Dadleuodd fod gan dyn y modd i ddewis rhwng da a drwg. Aeth hynny ddim i lawr yn dda efo'r powers that be...
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Prysor a ddywedodd:Ffawd v Ewyllys rhydd - hen hen ddadl ddiwinyddol rhwng Eglwys Rhufain a rhai aelodau amlwg o'r hen Eglwys Geltaidd. Ceisiwyd gwneud Pelagiws yn heretig am ddadlau dros Ewyllys Rhydd. Cyhuddwyd ef o "geisio atgyfodi athroniaeth y derwyddon." Dyna'r tystiolaeth tu ôl i ddadleuon rhai arbenigwyr Celtaidd (fel Peter Berresford Ellis) fod athroniaeth y derwyddon yn arddel Ewyllys Rhydd.
Ffawd - rhagluniaeth/pre-destination - fod Duw wedi mapio allan bywydau pawb yn barod, a dio'm bwys faint o ddrwg oeddach chi'n ei wneud, roeddach yn siwr o gael maddeuant yn y diwadd os oeddach yn repentio. Trafaeliodd Pelagiws o Brydain i Rufain, a gweld y bobl yno yn rhemp efo hedonistaiaeth a decadence. Dywedodd fod hynny'n engraifft o ffolineb pre-destination, achos fod bobol yn dewis byw yn 'bechadurus' wedyn cyfadda'u pechodau cyn marw, a dyna fo. Dadleuodd fod gan dyn y modd i ddewis rhwng da a drwg. Aeth hynny ddim i lawr yn dda efo'r powers that be...
Dw i ddim yn credu fod Eglwys Rufain yn dilyn "ffawd" - yn hytrach, dw i'n credu eu bod yn derbyn ewyllys rhydd.
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Am Belagiws ac ati, swn i'n credu mai mater o wleidyddiaeth oedd y broblem rhwng Eglwys Rufain ac yr Eglwys Geltaidd.
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Dim byd yn ymwneud a ffawd...
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:... (dim byd i wneud efo)...derwyddon
Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai