Wedi cael blas ar yr edefyn yma
Pobl sy'n ffonio canolfan alwadau parthed rhywbeth arwynebol a boring e.e. cardiau credyd, catalog dillad, gwyliau crand ac yn mynnu ennill y ddadl a throi sgwrs ar y ffon yn frwydr. Rhaid ennill a hyd yn oed anwybyddu yr hyn mae'r person sy'n gweithio i'r cwmni wedi ei ddweud. Ac os nad ydi'r pobl pwshi dwl yma yn cael eu ffordd eu hunain (ac hyd yn oed os y gwyddant- rhywle mewn congl o'u hymenydd eu bod wedi ac yn parhau i siarad lol jesd er mwyn cael eu ffordd eu hunain) rhaid mynnu siarad hefo Goruchwyliwr neu Rheolwr ac ail-adrodd union yr un nonsens... Ac yna bydd y pobl pwshi yma'n cael sterics ac yn adrodd yr hyn ddywedwyd ar y ffon i'r partner druan sydd wedi bod yn ddigon gwirion i aros hefo'r person
spolit brat yma. Pobl sy'n gweld galwad ffon i gwmni fel brwydr/gornest ac yn anghofio am resymeg...
You can take a horse to the edge of the river math o beth...
Ylwch- ewch a'r ci am dro, ewch i nofio, darllenwch lyfr, ewch i ddosbarth nos- jesd gwnewch rywbeth mwy difyr gyda'ch amser ar y ddaear yma- yn lle gwastraffu oriau o'ch bywyd yn stryglo am safon byw "da".
George W... nid oes angen dweud mwy!
Pobl sy'n meddwl bod eu gwlad nhw yn well na gwledydd eraill. Mae Cymru cystal ag unrhyw wlad ar y ddaear yma- ond tydi hi ddim mymryn gwell nag unrhyw wlad arall chwaith.
Yr ochr gas a hyll i gyfalafiaeth a materoliaeth.
Yr ochr gas i'r ras lygod mewn gwledydd cymharol gyfoethog. Dringo'r ysgol. Bod yn pwshi. Anghofio am fod yn neis ac yn glen weithiau jesd er mwyn cael dyrchafiad a £5K mwy o gyflog y flwyddyn.