Tudalen 1 o 18

Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Mer 03 Medi 2008 4:26 pm
gan Dy Fam
Be sy'n gneud i chi fod isho tynnu'ch pen oddi ar eich corff a'i daflu fo'n erbyn wal?

I fi gormod o bethau i'w rhestru ond dyma gwpwl:

Pobl sy'n gyrru rhwng 50 a 55 mya, a wedyn yn cyflymu fel da chi'n trio overtakio.

Cerdded rownd bathroom mewn sannau, a sefyll mewn patch glyb.

Rhanwch yn fama, a fyddwch chi'n teimlo'n well.

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Mer 03 Medi 2008 4:28 pm
gan Hedd Gwynfor
Dy Fam a ddywedodd:Pobl sy'n gyrru rhwng 50 a 55 mya, a wedyn yn cyflymu fel da chi'n trio overtakio.


Yn waeth byth, pobl sy'n gyrru 40mya/45mya bobman! :drwg: Cyflym iawn trwy bentref, ac araf iawn mewn ardal 60mya rhwng pentrefi.

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Mer 03 Medi 2008 4:36 pm
gan Llefenni
Fideos pop TMF a Bratz dolls - mae'r ffaith mai o'r rhain mae meched ifanc Cymru a Phrydain yn cael eu synnwyr o werth yn GYRRU FI'N NYTS :drwg: :drwg: :drwg: :drwg: :drwg:

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Mer 03 Medi 2008 5:20 pm
gan Cymro i'r Carn
Pobl sydd yn meddwl taw nhw yw'r byd a does dim byd yn gallu ei gyffwrdd arnynt , Mae hwna'n hala fi'n wyllt a hefyd pobl di-Gymraeg sydd wastad yn ceisio bychanu'r iaith a dweud bod ei dyfodol yn wân a bod hi wedi marw a ein bod ni ond yn ei siarad hi i'w gadael allan. Ac yn fy marn i os maent yn teimlo mor unig a fel ei bod yn colli rhywbeth wrth ffaelu siarad Cymraeg beth sydd yn rwystro nhw rhag dysgu? Mae nhw i gyd yn ddiog ac yn erfyn i ni newid i nhw. Dim ffordd.

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Mer 03 Medi 2008 7:27 pm
gan Chip
Pobl sy ddim yn dipio'u goleiadau mewn car. :drwg:

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Sad 20 Medi 2008 4:31 am
gan Gwenci Ddrwg
Pobl sy'n dechrau pynciau i gwyno fel rhyw fath o emo digalon (jocio wrth gwrs...)

OK yn ddifrif: Comiwnyddion a ffasgyddion "modern" sy'n dal credu y ddylai eu systemau nhw gael eu cymhwyso un adeg olaf, neu'r ffaith yn gyffredinol bod comiwnyddiaeth yn cael ei ystyried fel gymeradwy i gefnogi heddiw a dim mor tabboo na ffasgyddion. Dwi 'di colli tipyn o fydd yn natur ddynol yma. Gwleidyddol. Dwi'n gwybod.

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Sad 20 Medi 2008 10:15 am
gan Chickenfoot
Anadl dwfn...

- Scientology
- Y ffaith nad yw Wrestle Kingdom wedi cael ei ryddhau ym Mhrydain eto
- "Video tributes" i gymeriadau o sioeau teledu ar Youtube.
- X Factor
- Pobl sy'n ceisio bod ar X Factor
- Pobl adain dde eithafol
- Pobl adain chwith eithafol
- Bodolaeth Brian Dowling
- Cylchgronnau gossip
- Jo Whiley
- Pan mae defnyddwyr PS2 yn cwyno nad yw'r gemau newydd ar y system cystal ag 'roedden nhw. You've had ten years, buy a 360 you cheap bastard.
- Actorion a cherddorion sy'n meddwl eu bod nhw'n bwysig
- Method actors
- Unrhyw raglen am ffasiwn, prynu tai neu antiques
- Pobl sydd isio creationism ar y cwricwlwm gwyddonol
- Pobl ifanc yn dawnsio ac yn cael hwyl mewn gigs
- Pris petrol
- Merched...er bod nhw'n ddel

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Sad 20 Medi 2008 11:07 pm
gan ceribethlem
Fi'n llawer rhy broffesiynol i weud.

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Sul 21 Medi 2008 8:04 am
gan Lorn
- Pobl sy'n siarad lawr arnai (un person ceith aros yn ddienw yn benodol)
- Pobl grumpy
- Pobl sy'n mynd ar Big Brother
- Cylchgrawn 'Closer' mae'r wraig yn brynnu. Fersiwn papur o bully ydy o - pob wythnos hefo "Posh Spice desperate for baby girl", "Kerry Katona worried hubby is cheating on her", "Charlotte Church in weight increase". Who gives a fuck?
- Kerry Katona (neu Cantona fel mai'n cael ei galw yma)
- Pobl sy'n gosod pobl mewn categories e.e "ti'n lefty" - ffyc off, nachdw dwi just yn fi
- Llyfrau a rhaglenni teledu sy'n dweud wrthat ti be iw fwyta a be iw wisgo a be i beidio gwisgo nag bwyta -stwff Trinny a Tranny a'r dick head Gillian McKeith
- Hysbysebion ar y teledu
- Y lefel o crap sy'n cael ei ddarlledu ar Sky a'r ffaith bod pob hysbyseb yn cychwyn yr un pryd
- Obsesiwn Panorama ar hyn o bryd hefo reportio ar MRSA. Den ni i gyd yn mynd i fawr ohono os byddwn o fewn hanner milltir i sbyty mae'n debyg

Neith tro am wan.....

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Sul 21 Medi 2008 5:39 pm
gan ffwrchamotobeics
Cowbois Rhos Botwnog