Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

Postiogan Chickenfoot » Mer 24 Medi 2008 7:12 pm

Jade Goody - I fod yn gwbl onest, pam dw i fod i gael diddordeb ynddi nawr bod ganddi cancr? Mae Yahoo News yn ei galw hi'n "reality TV queen" jest am ei bod hi'n sal. Mis neu ddau yn ol mae'n siwr mai barn hollol wahanol oedd ganddyn nhw.

Mae'n drist bod ganddi cancr, ond mae'n drist pan mae unrhyw un yn cael cancr.

Dydi hon ddim rili'n haeddu unrhyw sylw gan y cyfryngau oherwydd ei bod yn fwli bach thick, di-ddawn sydd wedi bod yn uffernol o lwcus.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

Postiogan DAN JERUS » Mer 24 Medi 2008 7:45 pm

Nosweithiau Beirdd Vs Rappwyr :rolio:
Ai beg ior pardyn, ai nefyr shagd iw in a rose garden!
DAN JERUS
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1086
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 3:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

Postiogan Tania » Mer 24 Medi 2008 9:43 pm

Jon Bon Jela a ddywedodd:1
8. Jetlag
Mwy i ddod...


O diolch i'r nef am hynnu. Roeddwn i'n dechre pryderu fod rhywyn dosbarth gweithiol wedi ymuno ar seiat.
Cytuno - Jetlag mae o gymaint o draaaaaaag!
Rhithffurf defnyddiwr
Tania
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 44
Ymunwyd: Mer 18 Awst 2004 9:30 am
Lleoliad: Mewn ty ffrind

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

Postiogan Madrwyddygryf » Gwe 26 Medi 2008 5:08 pm

Diwylliant BoBo Cymraeg troedig Caerdydd. Be di hwnna yn union ?

Chuggers - bobl ma sydd yn ymgeisio i gael chi rhoi arian i cronfa da pan rydych yn cerdded lawr y stryd. Mae nhw mynd yn waeth nawr, dwi'n cael nhw yn nocio ar y nrws i. :drwg:
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Llun 20 Hyd 2008 3:31 pm

Wel.....o dop fy mhen:
Cenedlaetholwyr a oedd yn erbyn y syniad o Steddfod Lerpwl 2007

Y ffaith nad ydym wedi gweld papur newydd Y Byd yn gweld golau dydd. Ond fel y dywed y Sais: never say never...

Arfer gweithio mewn adeilad mawr iawn yn Lloegr efo ffreutur mawr iawn yn ogystal.
Weithiau byddwn yn cael fy awr ginio ar adegau gwahanol... Ffreutur hefo llwyth o fyrddau. A byddai boi neu dynes o'r staff ffreutur yn dod hefo peth sgwyrtio a cadach er mwyn glanhau y byrddau-ac yn mynnu glanhau fy mwrdd bach i hefyd. Ffyc secs- gadewch i mi fod! Defnyddiwch myryn o synnwyr cyffredin! Heddwch! Llonydd! Parchwch fy ngofod personol.
(mymryn o refru ar maes-e... allan o'r system...ond ni fyddem wedi bod yn flin hefo'r bobl oedd yn glanhau. Dwi ddim yn berson cas)...

Twats sy'n gyrru ar hyd lonydd distaw cefn gwlad Cymru ac yn lluchio papur Maci-dis allan drwy'r ffenestr heb falio dim am brydferthwch Cymru... ac mae lot o'r bobl yma'n bobl lleol i'r ardal hefyd!!

Swn di-angen mewn llyfrgelloedd

Pobl sy'n dod ar fws ac yna'n sefyll reit wrth ymyl y gyrrwr er mwyn cael clonc... Y peth ydi- mae yna arwydd ar y bysus yn dweud wrth yr ymdeithiwr beidio sefyll yn rhy agos i'r gyrrwr a'i lygad-dynnu... Ac hefyd pan mae'r bys yn sdopio er mwyn pigio rhywun arall i fyny (efallai hefo e.e. cesus mawr) mae'r boi/dynes wrth y gyrrwr jesd yn aros yno ac yn syllu yn lle jesd symud o'r ffordd a chaniatau digon o le i'r person arall basio...hwyrach nad yw hyn yn digwydd bob tro- ond dwi wedi gweld hyn yn digwydd.

O ia, rhai pobl cefnog pwshi uffernol sy'n amddiffyn eu safon byw nhw fel y peth pwysica yn y byd- ac yn sbio i lawr ar bobl sydd (yn eu meddwl bach nhw o leia) yn salach person. Er enghraifft, plant sberm Thatcher, rhai o snobs dwl CDU Yr Almaen, pobl sydd wedi eu difetha ac yn sbio i lawr eu trwynau ar bobl o ardaloedd rhai breintiedig... Pobl sy'n e.e. dadlau ynglyn a phethau arwynebol- cardiau credyd, pres er mwyn cael eu ffordd eu hunain. Yn mynnu gwyliau perffaith a sbio i lawr ar y trigolion lleol... Pobl sy'n dadlau am bethau shit a diflas ac yn siarad nonsens er mwyn cael safon byw, wel...arwynebol.
Golygwyd diwethaf gan Wylit, wylit Lywelyn ar Llun 20 Hyd 2008 4:38 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Llun 20 Hyd 2008 4:36 pm

Wedi cael blas ar yr edefyn yma :D
Pobl sy'n ffonio canolfan alwadau parthed rhywbeth arwynebol a boring e.e. cardiau credyd, catalog dillad, gwyliau crand ac yn mynnu ennill y ddadl a throi sgwrs ar y ffon yn frwydr. Rhaid ennill a hyd yn oed anwybyddu yr hyn mae'r person sy'n gweithio i'r cwmni wedi ei ddweud. Ac os nad ydi'r pobl pwshi dwl yma yn cael eu ffordd eu hunain (ac hyd yn oed os y gwyddant- rhywle mewn congl o'u hymenydd eu bod wedi ac yn parhau i siarad lol jesd er mwyn cael eu ffordd eu hunain) rhaid mynnu siarad hefo Goruchwyliwr neu Rheolwr ac ail-adrodd union yr un nonsens... Ac yna bydd y pobl pwshi yma'n cael sterics ac yn adrodd yr hyn ddywedwyd ar y ffon i'r partner druan sydd wedi bod yn ddigon gwirion i aros hefo'r person spolit brat yma. Pobl sy'n gweld galwad ffon i gwmni fel brwydr/gornest ac yn anghofio am resymeg...
You can take a horse to the edge of the river math o beth...
Ylwch- ewch a'r ci am dro, ewch i nofio, darllenwch lyfr, ewch i ddosbarth nos- jesd gwnewch rywbeth mwy difyr gyda'ch amser ar y ddaear yma- yn lle gwastraffu oriau o'ch bywyd yn stryglo am safon byw "da".

George W... nid oes angen dweud mwy!

Pobl sy'n meddwl bod eu gwlad nhw yn well na gwledydd eraill. Mae Cymru cystal ag unrhyw wlad ar y ddaear yma- ond tydi hi ddim mymryn gwell nag unrhyw wlad arall chwaith.

Yr ochr gas a hyll i gyfalafiaeth a materoliaeth.

Yr ochr gas i'r ras lygod mewn gwledydd cymharol gyfoethog. Dringo'r ysgol. Bod yn pwshi. Anghofio am fod yn neis ac yn glen weithiau jesd er mwyn cael dyrchafiad a £5K mwy o gyflog y flwyddyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Llun 20 Hyd 2008 4:47 pm

Yn olaf (am y tro):
Boi 'ma (Americanwr): Gofynodd i mi o ble oeddwn i yn dod. Dywedais: Wales. Yna dywedodd: Oh yeah, England......
Yna dyma fi'n dweud yn gwrtais ac heb newid goslef fy llais neu gwneud gwyneb cas- a heb newid fy iaith corfforol: No, Wales.
Yna dyma fo'n dweud: Yeah, but it's all the same really isn't it?- mewn ffordd nawddoglyd. 'Roedd yn hollol argyhoeddiedig mai fo oedd yn iawn.
Ia wel, os ti'n dweud met. Os ti'n dweud :? :crio:
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

Postiogan ceribethlem » Llun 20 Hyd 2008 4:47 pm

Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Pobl sy'n meddwl bod eu gwlad nhw yn well na gwledydd eraill. Mae Cymru cystal ag unrhyw wlad ar y ddaear yma- ond tydi hi ddim mymryn gwell nag unrhyw wlad arall chwaith.

Mae Cymru'n well na Uzbekistan.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

Postiogan Chickenfoot » Maw 21 Hyd 2008 10:19 am

Enwogion sydd yn "activists" - fuck off and make a film.
Y ffaith bod ddim "Hit Parade" wythnosol go iawn hefo holl acts sydd ar y siart, marching bands, eleffantod, acrobats a David Kid Jensen yn gwaeddu "All the HITS!" mewn llais excited. Make it happen, BBC!
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Iau 23 Hyd 2008 4:05 pm

Caffis rhyngrwyd:
Un gadair ar gyfer un cyfrirfiadur. Iawn. Weithiau bydd boi neu ddynes hefo ffrind a bydd dau/dwy (beth bynnag) yn eistedd ac yn hawlio mwy o le a gwagle na'r hyn sy'n gwneud synnwyr! Efallai y byddwch yn eistedd drws nesaf iddynt ac y byddant yn torri ar lonyddwch rhywun. Peidio parchu ffiniau clir. Mae gen i le personol yn fama, ac 'rydych yn dwyn mymryn oddi wrtha i!
Ella bod hyn braidd yn biwis, ond y pethau bach sy'n mynd ar wic bobl, am wn i. :drwg:

Gofyn wrth Almaenwr a oedd wedi byw a gweithio yng Nghymru am gyfnod:
Have you been up a few Welsh mountains yet?
A dyma'r %$$^&&**( gwirion jesd yn sbio arna i a dweud:
Oh, but I don't think you have mountains here in Wales. They are more like hills
:crechwen: :drwg: :drwg: :drwg:
Wel, efallai fod yna fynyddoedd ym Mafaria sydd llawer, llawer iawn uwch na'r rhai yn Eryri neu'r Banau Brycheiniog, ond ti'n gwbod be washi? Ti mor ffrigin dwl am fod mor anwybodus a dweud rhywbeth mor uffernol o dwatllyd. Ond dyna ni, hyd yn oed pe tawn i wedi ei gywiro yna dwi ddim yn meddwl y byddai wedi deall hyd yn oed wedyn!
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai

cron