gan Lorn » Mer 04 Maw 2009 10:00 pm
Pobl sy'n mynd i siopa i'r archfarchnad yr un pryd a fi, yn enwedig hen bobl sydd methu cerdded heb y troli.
Ok, wrach sa rhai pobl yn deud bod hi'n afresymol fy mod i'n disgwyl cael yr holl siop i fi fy hun ond mae pob un person arall sydd yn siopa yno fel eu bod yn mynd allan o'u ffordd i fy ngwylltio i, felly dwi ddim yn gweld bod unrhyw ddewis gan Morrissons nag gwahardd pawb tra dwi yno. Tra dan ni ar y pwnc o archfarchnadoedd dwi hefyd yn casau polisi 'scatter gun' y wraig pan mai'n dod at lunio rhestr siopa pan dwi'n neud y siopa. Pam ellith hi ddim rhoi'r list yn nhrefn yr aisles fel ma nhw'n dod fyny, ar hyn o bryd dwi'n mynd o 1, i 2, i 3, i 1, i 4, i 2, i 1, i 3, i 6, i 1, i'r till, i'r car, nol i 1, i'r till, nol i'r car. A ma Rheolwyr Morrissons Dinbych yn edrych fel dipyn o goc hefyd.