Tudalen 12 o 18

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Llun 15 Rhag 2008 6:01 pm
gan osian
Wierdo a ddywedodd:Pobl sydd ddim yn dipio & pobl sy'n dreifio fyny mhen ôl i pan dwin cadw i'r sbîd limit - ffyc off; wnai ddim sbidio i chi.

Pobl sy' ddim yn dipio pan ma nhw reit tu ol i fi felly'n fy nallu. grr

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Maw 16 Rhag 2008 9:10 am
gan ceribethlem
Wierdo a ddywedodd: Pobl sy'n plygu ffyrc. Pam?
Stecen rhy galed?

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2008 5:28 am
gan Gwenci Ddrwg
Geriau shiti newydd fel "holiday tree", a phob ffordd newydd o osgoi'r gair "nadolig" hyd yn oed os oes na cyswllt hollol amlwg i'r beth sy'n amhosib i fethu heb i ti fod yn ffecin hurt. Hyd yn oed gwaith, glywes i "holiday candalabra" yn ddiweddar- tybiwch be ydy o. :rolio: OK digon o fy rant- dwi'n mynd i wneud tipyn o "holiday fasting" ar y funud.
Pobol sydd yn mwydro chdi pam mae nhw di meddwi ond os bysa nhw yn gweld chdi yn sobor sa nhw ddim yn deud hello.

Digwydd pob amser- fydd pobl yn colli arswyd yn gyffredinol ar ôl iddynt yfed, cynnwys arswyd o ymddangos yn lletchwith neu hurt. Fydden nhw'n cymdeithasu efo mwy neu lai pawb ar y stryd sy'n cael eu sylw...weithiau anifeiliaid hefyd.

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2008 7:06 pm
gan Chickenfoot
Pobl sydd sy'n llyfu'u bysedd cyn agor bag i chi mewn siop. Hefyd, pobl sy'n llyfu bysedd i droi tudalennau llyfrau. It's wrong, WRONG!

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2008 7:21 pm
gan osian
ond yn angenrheidiol weithia. 'nenewedig os di dy ddwylo di yn gynnas a sych.

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2008 8:28 pm
gan asuka
shiloh.
na, suri!
neu shiloh...

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Sad 20 Rhag 2008 10:20 pm
gan Dr Strangelove
hysbyseb teledu rhaglen radio dafydd du ac eleri sion. cachu rwtch llwyr.

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2008 1:35 pm
gan Chickenfoot
Y tueddiad gan bobl i feddwl fod diffyg gwybodaeth yn beth da, ac y dylia rywun fod yn hapus hefo "mediocrity".
Peter Hitchens: gwneud synnwyr ar nifer o bynciau, ond wedyn yn sbwylio pethau hefo rant wrth-PC camarweiniol.
Y ffaith bod y WWE yn rhoi benefits iechyd ayyb i'w weithwyr swyddfa, ond yn trin ei "commodity" mwya gwerthfawr fel "independent contractors".
Sianeli teledu yn ail-ddangos rhalenni a ffilmiau dros y 'Dolig. Mary ffecin Poppins eto?

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2008 6:21 pm
gan Kez
Chickenfoot a ddywedodd:Sianeli teledu yn ail-ddangos rhalenni a ffilmiau dros y 'Dolig. Mary ffecin Poppins eto?


Ay Chickenfoot - ti'n mynd rhy bell nawr. Le ma'r cymedrolwyr, gwed?

Ombai bod rhywun yn dy roi di yn dy le, byddi di'n cal gwarad o'r Wizard of Oz a'r Sound of Music off y teli bob Dolig - wi'n napod dy deip di foi; ffinda'r gan yn dy enaid di a dysga neud dillad mas o gyrtens cyn bod Julie Andrews yn dy ladd di!!

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2008 9:02 pm
gan Chickenfoot
Mae rywbeth yn gwneud i mi feddwl bod Julie Andrews yn fudr iawn yn y gwely.

Nurse!

Mae Mary Poppins yn ffilm da os wyt ti'n hoff o sioeau gerdd, ond ar ol dipyn mae'r plant sy'n son am "Barhhhley Waarrtther" a hyd yn oed Dick Van Dyke, yn gwneud i mi isio dorri't sgrin.