Tudalen 15 o 18
Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?
Postiwyd:
Gwe 20 Chw 2009 1:51 pm
gan Chickenfoot
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Compare the
meerkat dot com
AAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAACH!
Damn you, sir! Mae Alexandr yn chwedlennol.
Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?
Postiwyd:
Gwe 20 Chw 2009 2:27 pm
gan Hogyn o Rachub
Os nad oedd dy dafod yn dy foch uchod yna mae'n haeddu cael ei dorri ffwrdd!
Mae'r hysbyseb ma'n erchyll
Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?
Postiwyd:
Gwe 20 Chw 2009 5:08 pm
gan Chickenfoot
Mae'r gallu i gymharu Meerkats o ran maint a diddordebau yn hawl dynol.
Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?
Postiwyd:
Llun 23 Chw 2009 1:30 am
gan Dai dom da
Y peth syn gwyllto fi fwy na dim dyddie ma yw pobol syn defnyddio slang ar facebook, myspace etc:
that - dat
tonight - 2nite neu tonyt
your - ur
right - rite
A jest ysgrifennu dioglyd fel:
where - wer
thinkin - thinking (anghofio'r g mewn geiriau)
who - hw
Petty dwi'n gwbod, ond christ, digon teg os chi o dan 14, ddim pan i chi yn eich ugeiniau +.
Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?
Postiwyd:
Llun 23 Chw 2009 11:40 am
gan ger4llt
Dai dom da a ddywedodd:Y peth syn gwyllto fi fwy na dim dyddie ma yw pobol syn defnyddio slang ar facebook, myspace etc:
that - dat
tonight - 2nite neu tonyt
your - ur
right - rite
A jest ysgrifennu dioglyd fel:
where - wer
thinkin - thinking (anghofio'r g mewn geiriau)
who - hw
Petty dwi'n gwbod, ond christ, digon teg os chi o dan 14, ddim pan i chi yn eich ugeiniau +.
2rite!
'Dwi jyst yn cym'ryd yn ganiatâol 'u bod nw'n dwp wedyn, yn fwy na diog. Dwnim faint o weithia' dwi'n gorfod mynd i urbandictionary i ffeindio allan be ma' nhw'n feddwl rhag i
mi swnio'n dwp...
Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?
Postiwyd:
Llun 23 Chw 2009 2:51 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
yn fy ngwylltio heddiw mae...
toriaid gwrthgymreig.
pobl sy'n tynnu eraill oddi ar 'u rhestra ffrindia ar facebook am resyma cwbl wirion a phlentynaidd.
bo' fi byth di gorffan y gwaith 'ma sy' bron i bythefnos ar ol y dedlain ar y dedlain ar y dedlain.
Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?
Postiwyd:
Llun 23 Chw 2009 3:12 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Compare the meerkat dot com
rho gyfla arall iddo fo... ma' hwn 'di ticlo fi heddiw.
http://www.comparethemeerkat.com/
Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?
Postiwyd:
Llun 23 Chw 2009 4:01 pm
gan Hogyn o Rachub
Mi esh iddo fo ddoe cofia. Dwi dal yn flin.
Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?
Postiwyd:
Llun 23 Chw 2009 7:28 pm
gan Duw
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:Hogyn o Rachub a ddywedodd:Compare the meerkat dot com
rho gyfla arall iddo fo... ma' hwn 'di ticlo fi heddiw.
http://www.comparethemeerkat.com/
Rhaid taw peth mwya doniol dwi wedi gweld ar y we ers amser. Mae'r cids yn son amdano, ond dwi dal heb ei weld ar y bocs.
Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?
Postiwyd:
Maw 24 Chw 2009 3:44 pm
gan Chickenfoot
Cytuno hefo Dai Dom Da a Ger4llt. Mae'r arferia Americanaidd o ddweud "then" yn lle "than" a "I could care less" yn lle "I couldn't care less" yn ddau arall syd yn achosi diffyg cwsg i fi.