Tudalen 16 o 18

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Maw 24 Chw 2009 8:27 pm
gan Duw
Wedi wrthot ti CF - y peth arall yw pobol yn gweud 'of' yn lle 'have' - e.e. 'I could of ...' - diawled gwirion

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Maw 03 Maw 2009 1:00 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Rhieni sy'n mynd a'u plant i MacDonalds o leia tair gwaith yr wythnos (ac yn anghofio am yr opsiwn moron).
Ydi'r bobl yma'n ffit i gael plant??

Pobl sy'n mynd a'u cwn am dro a ddim yn trafferthu glanhau y cachu pan mae'r ci yn penderfynu cael dymp.

Math arbennig o chav.

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Maw 03 Maw 2009 8:48 pm
gan Seonaidh/Sioni
Mae 7ennyn yn 6dlonol am 3o 7u - ddim yn 10. Oes na neb wedi dyfeisio rhyw tst ar Gmrg eto? Y chn tst n Gmrg? Fasai hyyny yn eich gwylltio'n fwy na thecstio Saesneg?

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Mer 04 Maw 2009 6:48 pm
gan Dai dom da
Pobol sy'n gadel eu troli's yn ffacin unrhywle le yn Tesco.

Coldplay.

Pobol sy'n byw ar-lein.

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Mer 04 Maw 2009 10:00 pm
gan Lorn
Pobl sy'n mynd i siopa i'r archfarchnad yr un pryd a fi, yn enwedig hen bobl sydd methu cerdded heb y troli.

Ok, wrach sa rhai pobl yn deud bod hi'n afresymol fy mod i'n disgwyl cael yr holl siop i fi fy hun ond mae pob un person arall sydd yn siopa yno fel eu bod yn mynd allan o'u ffordd i fy ngwylltio i, felly dwi ddim yn gweld bod unrhyw ddewis gan Morrissons nag gwahardd pawb tra dwi yno. Tra dan ni ar y pwnc o archfarchnadoedd dwi hefyd yn casau polisi 'scatter gun' y wraig pan mai'n dod at lunio rhestr siopa pan dwi'n neud y siopa. Pam ellith hi ddim rhoi'r list yn nhrefn yr aisles fel ma nhw'n dod fyny, ar hyn o bryd dwi'n mynd o 1, i 2, i 3, i 1, i 4, i 2, i 1, i 3, i 6, i 1, i'r till, i'r car, nol i 1, i'r till, nol i'r car. A ma Rheolwyr Morrissons Dinbych yn edrych fel dipyn o goc hefyd.

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Iau 12 Maw 2009 11:52 pm
gan Dr Strangelove
hysbyseb diet coke duffy (sori!)

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Gwe 13 Maw 2009 12:06 am
gan Dai dom da
Yr advert teledu am yr awful 'young welshman'. Rhyw ceramic model shite o rhyw fachgen gyda blydi pel rygbi. Pathetic.

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Gwe 13 Maw 2009 2:31 am
gan Chickenfoot
Dr Strangelove a ddywedodd:hysbyseb diet coke duffy (sori!)


Digon gwir...mae ei llais hi'n ofnadwy ar y hysbyseb yna.

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Sad 14 Maw 2009 12:13 am
gan Madrwyddygryf
Bobl sydd yn hecklo comediwyr mewn clybiau.Rili sydd ddim angen nac oes?

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Sad 14 Maw 2009 1:32 am
gan Kez
Madrwyddygryf a ddywedodd:Bobl sydd yn hecklo comediwyr mewn clybiau.Rili sydd ddim angen nac oes?


Oes, os ti'n ei neud e mewn clwb - ma'n rhan o'r diriogaeth, ac os nad yw'r comediwr yn gallu ei droi e at ei fantais, man a man iddo fe roi'r gorau iddi. Byswn i'n meddwl bod y rhan fwya o'r 'comedians' gora yn gweld hwnna fel bedydd tan ac yn gwella o'i herwydd.

Byw ne' marw yw hi ar lwyfan ond ryn ni i gyd yn gwpod be gewn ni ar y teli - y da a'r drwg heb feirniadaeth - a phwy sydd wir eisiau clywed 'canned laughter' - bach o 'edge' sydd eisiau ar bob comedi go iawn.

Heclwch er mwyn eu helpu - wetswn i!