Tudalen 18 o 18

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Gwe 03 Gor 2009 6:30 pm
gan Duw
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Y math o nonsens du a gwyn gor-syml mae rhywun yn ei ddarllen weithiau yn e.e. Daily Star, Daily Express, Daily Mail.
Iawn, efallai y gellir darllen ambell i erthygl hefo mymryn o raen a rhesymeg yn perthyn iddi yn e.e. Daily Mail...
Ond at ei gilydd, credaf fod y papurau newydd yma yn syrthio i'r categori canlynol: Cachu.


Rhaid cytuno 'da ti. Yr unig pryd dwi'n pigo lan y rhacsys 'ma yn wrth mynd i gaffi a wilo trw'r deunydd darllen sydd ar gael. Cachu, cachu a mwy o gachu. Stim byd gwell gan y Daily Mirror (Cymreig) i'w gynnig 'chwaith. Dwi mor flinedig wrth bori'r Western Mail - r'un hen gachu fanna hefyd, er rhan helaeth yn edrych fel ei fod wedi'i gymryd o Reuters a'i ailgachu.

Enter Golwg360, gwaredwr newyddion Cymru Lan. O ffyc...

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Gwe 14 Awst 2009 12:07 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Duw a ddywedodd:Enter Golwg360, gwaredwr newyddion Cymru Lan. O ffyc...

Mae gen i fwy o ddiddordeb yn yr XBox 360 ar hyn o bryd. Mae hyn yn dweud cyfrolau...

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Sad 15 Awst 2009 10:37 am
gan Chickenfoot
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Enter Golwg360, gwaredwr newyddion Cymru Lan. O ffyc...

Mae gen i fwy o ddiddordeb yn yr XBox 360 ar hyn o bryd. Mae hyn yn dweud cyfrolau...


Mae Wncl Bill wedi dy ddal di yn ri rwyd hefyd, felly? :D Ryw ddydd, mi fydd pawb o dan ei reolaeth cadarn, felys.

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Sad 15 Awst 2009 10:40 am
gan Chickenfoot
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Enter Golwg360, gwaredwr newyddion Cymru Lan. O ffyc...

Mae gen i fwy o ddiddordeb yn yr XBox 360 ar hyn o bryd. Mae hyn yn dweud cyfrolau...

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Sad 15 Awst 2009 10:44 am
gan Chickenfoot
The Bill ar ei newydd wedd - dydi o ddim yn iawn. Feem toon newydd? Cerddoriaeth "incidental"? Ceisio neud i sioe sydd i fod am "nicking slags" yn debycach i Prime Suspect? Be' mae ITV yn 'smygu?

O leia mae Tone yn cael gyrru area car.

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Gwe 21 Awst 2009 5:38 pm
gan Y Pesimist
Yr hysbysebion na sydd yn trio cal bobl i fflgoio i gemwaith a gweddill i junk aur nhw i ffwrdd am 'bres'. Ma na tua 3 neu 4 o rai gwahanol ar y bocs dyddia yma a ma nhw i gyd yn edrych fatha yr un cwmni sydd yn trio con-io pobl. Y cwmnioedd fatha
http://www.cash4gold.com
http://www.money4golduk.com
http://www.cashmygold.co.uk

Ma nhw i gyd yn edrych fel hysbysebion sydd wedi cael ei neud ar budget o geiniogiau!!!

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Maw 29 Medi 2009 12:00 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Y ffordd mae 'erthyglau', penawdau a phytiau arwynebol cachu rwtsh ym mhapurau sychu tin Llundain yn rhoi 'petrol ar fflam' anwybodaeth rhai pobl gwyn Prydain ynglyn a Mwslemiaid ac Islam.

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Maw 29 Medi 2009 12:15 pm
gan Ray Diota
sbel yn ol...

Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Y math o nonsens du a gwyn gor-syml mae rhywun yn ei ddarllen weithiau yn e.e. Daily Star, Daily Express, Daily Mail.
Iawn, efallai y gellir darllen ambell i erthygl hefo mymryn o raen a rhesymeg yn perthyn iddi yn e.e. Daily Mail...
Ond at ei gilydd, credaf fod y papurau newydd yma yn syrthio i'r categori canlynol: Cachu.


ac yn ddiweddarach...

Y ffordd mae 'erthyglau', penawdau a phytiau arwynebol cachu rwtsh ym mhapurau sychu tin Llundain yn rhoi 'petrol ar fflam' anwybodaeth rhai pobl gwyn Prydain ynglyn a Mwslemiaid ac Islam.


pryna bapur gwahanol!

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Maw 29 Medi 2009 12:25 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Ym mhle yn union ydw i wedi sgwennu fy mod yn prynu'r papurau sychu tin yma??
Ray- be yn union yw dy bwynt?
Nid wyf yn eu prynu. Ydi hyn yn golygu nad oes gen i'r hawl i deimlo'n grac ynghylch y modd mae rhai 'newyddiadurwyr' yn sgwennu cachu jesd er mwyn gwerthu nifer sylweddol o gopiau?

Re: Be sy'n gwylltio chi fwy na dim byd yn y byd?

PostioPostiwyd: Sad 03 Hyd 2009 4:40 am
gan Gwenci Ddrwg
Dwi'm yn gwybod am yr holl drama 'ma ond eniwe dwi'n cytuno'n hollol bod newyddiadurwyr'n llawn o crap weithiau. Dwi di gweld fy hun sut maen nhw'n ffycio efo'r ffeithiau i greu diddordeb/arddangos barn wleidyddol. Yn amlwg dwi'm yn nabod eich papurau lleol ond fam ma mae gynnon ni'r un beth (y Toronto Star ydy'r waith ohonynt). Trist mai bron yr unig fath o wybodaeth ydyn nhw.