Dafydd Elis-Thomas wedi dweud wrth agor arddangosfa newydd Mary Lloyd Jones yn Oriel Môn:
"Rwy'n teimlo ers rhai blynyddoedd ein bod wedi cyrraedd y sefyllfa lle mae celf weledol... yn dweud mwy wrthom ni am ein hunaniaeth fel cenedl nag ydy'r hen ffurfiau blinedig hynny sy'n defnyddio'r gair yn unig."
Stori .
Ai corddi er mwyn corddi y mae e 'ta oes 'na wirionedd yn yr honiad?
Ydi gwaith pobl fel Emyr Lewis, Myrddin ap Dafydd, Robin Llywelyn, Eurig Salisbury a Wiliam Owen Roberts, Dewi Prysor a Llwyd Owen yn flinedig?
A oes angen gosod celf weledol a llenyddiaeth yn erbyn ei gilydd fel hyn?