Tudalen 1 o 1

Celf yn fwy perthnasol na llenyddiaeth?

PostioPostiwyd: Sul 18 Ion 2009 5:27 pm
gan sian
Dafydd Elis-Thomas wedi dweud wrth agor arddangosfa newydd Mary Lloyd Jones yn Oriel Môn:

"Rwy'n teimlo ers rhai blynyddoedd ein bod wedi cyrraedd y sefyllfa lle mae celf weledol... yn dweud mwy wrthom ni am ein hunaniaeth fel cenedl nag ydy'r hen ffurfiau blinedig hynny sy'n defnyddio'r gair yn unig."

Stori yma.

Ai corddi er mwyn corddi y mae e 'ta oes 'na wirionedd yn yr honiad?

Ydi gwaith pobl fel Emyr Lewis, Myrddin ap Dafydd, Robin Llywelyn, Eurig Salisbury a Wiliam Owen Roberts, Dewi Prysor a Llwyd Owen yn flinedig?

A oes angen gosod celf weledol a llenyddiaeth yn erbyn ei gilydd fel hyn?

Re: Celf yn fwy perthnasol na llenyddiaeth?

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2009 9:41 pm
gan Meg
Dwi'n meddwl bod yr hen Daf El yn 'frustrated author.'

Re: Celf yn fwy perthnasol na llenyddiaeth?

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ion 2009 10:35 am
gan Hogyn o Rachub
Corddi mae'r hen dorth, fel arfer. Dydyn ni ddim wir i gredu bod ganddo farn ar unrhyw beth erbyn hyn, nac ydym?