Tudalen 1 o 1

Amgen : Broken

PostioPostiwyd: Iau 09 Ebr 2009 4:01 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
drama ddwyieithog newydd gan sherman ydi hon - a dyma'r e-bost dwi newydd dderbyn yn fy hysbysu ohoni....

Sherman Cymru
Amgen : Broken
1 - 9 May, 8pm
Written by Gary Owen

Most of this play is in English. Some of it is in Welsh: but don't let that put you off. The English will give you plenty to be dealing with.

Amgen:Broken stars Steven Meo (Grown Ups) and Simon Watts (Y Pris) and is written by award-winning playwright Gary Owen (Crazy Gary's Mobile Disco, Ghost City)
more information
Amgen:Broken


felly, ydyn nhw'n meddwl bod dim angen dennu cynulleidfaoedd cymraeg 'u hiaith, ydyn nhw? "don't let that put you off", sori ma'ch agwedd gwrth-gymreig chi newydd roid fi "off" diolch yn fawr iawn.

Re: Amgen : Broken

PostioPostiwyd: Iau 09 Ebr 2009 5:03 pm
gan Duw
I mi mae'n amlwg eu bod yn targedu'r gynulleidfa Saesneg. Ffili gweld unrhyw Cymro/aes Cymraeg yn mynychu hwn yn dilyn y geirie 'ny. Twll ei din e.

Re: Amgen : Broken

PostioPostiwyd: Gwe 10 Ebr 2009 12:11 pm
gan Ray Diota
Duw a ddywedodd:I mi mae'n amlwg eu bod yn targedu'r gynulleidfa Saesneg. Ffili gweld unrhyw Cymro/aes Cymraeg yn mynychu hwn yn dilyn y geirie 'ny. Twll ei din e.


ma nhw'n troi'r joc yn gymraeg... ymlaciwch wir Dduw...

Mae rhywfaint o’r ddrama hon yn Gymraeg. Mae’r rhan fwyaf ohoni yn Saesneg: ond peidiwch â gadael i hynny ddylanwadu arnoch. Nid pawb sy’n ddigon ffodus i siarad iaith y nefoedd wedi’r cyfan.

Mae nifer o ddramâu Gary Owen wedi eu gwobrwyo ac wedi eu cynhyrchu ledled y byd. Ef yw awdur Crazy Gary’s Mobile Disco, The Shadow of a Boy, The Drowned World a Ghost City.

Yn cynnwys iaith o natur rywiol.

Re: Amgen : Broken

PostioPostiwyd: Gwe 10 Ebr 2009 12:13 pm
gan Ray Diota
Ray Diota a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:I mi mae'n amlwg eu bod yn targedu'r gynulleidfa Saesneg. Ffili gweld unrhyw Cymro/aes Cymraeg yn mynychu hwn yn dilyn y geirie 'ny. Twll ei din e.


ma nhw'n troi'r joc yn gymraeg... ymlaciwch wir Dduw...

Mae rhywfaint o’r ddrama hon yn Gymraeg. Mae’r rhan fwyaf ohoni yn Saesneg: ond peidiwch â gadael i hynny ddylanwadu arnoch. Nid pawb sy’n ddigon ffodus i siarad iaith y nefoedd wedi’r cyfan.

Mae nifer o ddramâu Gary Owen wedi eu gwobrwyo ac wedi eu cynhyrchu ledled y byd. Ef yw awdur Crazy Gary’s Mobile Disco, The Shadow of a Boy, The Drowned World a Ghost City.

Yn cynnwys iaith o natur rywiol.


wedi gweud 'ny... pam na gest ti dderbyn yr e-bost yn ddwyieithog, Tracsiwt...?

Re: Amgen : Broken

PostioPostiwyd: Gwe 10 Ebr 2009 2:55 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
Ray Diota a ddywedodd:wedi gweud 'ny... pam na gest ti dderbyn yr e-bost yn ddwyieithog, Tracsiwt...?

yn union. lle welist ti'r shbil cymraeg 'ma? ella bo fi di neidio ar gefn fy ngheffyl candryll braidd yn rhy fyrbwyll, ond dwi di hen 'laru ar dderbyn e-byst uniaith saesneg gan y cwmni. dwi di cwyno sawl gwaith, a di derbyn ymddiheuriad ac eglurhad mai'r merge o'dd i'w feio, a'u bod ar fin sortio'u hunain allan, ond cym on ma' nhw 'di merge-o ers bron i ddwy flynadd wan dwi'n siwr, a 'di o dal ddim yn esgus beth bynnag. grrrr.

Re: Amgen : Broken

PostioPostiwyd: Gwe 10 Ebr 2009 2:58 pm
gan Ray Diota
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:wedi gweud 'ny... pam na gest ti dderbyn yr e-bost yn ddwyieithog, Tracsiwt...?

yn union. lle welist ti'r shbil cymraeg 'ma? ella bo fi di neidio ar gefn fy ngheffyl candryll braidd yn rhy fyrbwyll, ond dwi di hen 'laru ar dderbyn e-byst uniaith saesneg gan y cwmni. dwi di cwyno sawl gwaith, a di derbyn ymddiheuriad ac eglurhad mai'r merge o'dd i'w feio, a'u bod ar fin sortio'u hunain allan, ond cym on ma' nhw 'di merge-o ers bron i ddwy flynadd wan dwi'n siwr, a 'di o dal ddim yn esgus beth bynnag. grrrr.


ar y wefan... ma'r ffaith bo 'da nhw gyfieithad ac ddim yn trafferthu'i ddefnyddio fe'n yr ebost yn hurt ac yn dangos u hagwedd nhw...

Re: Amgen : Broken

PostioPostiwyd: Maw 09 Meh 2009 1:54 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
ar ol fy ngwylltineb hefo agwedd y cwmni, eshi i weld y ddrama 'ma, ac oedd hi'n un o'r petha' gora dwi di weld ers oes... o'dd hi'n wych. gafodd 'na rywun gyfla i'w gweld? doedd hi'm yn mynd tu hwnt i gaerdydd a wyddgrug, yn anffodus, oedd yn biti garw a deud y lleia. 'sa 'n ddiddorol clwad ymateb cynulleidfa a'r rhelyw ohonyn nhw'n siaradwyr cymraeg, sy'n groes i'r hyn gafon nhw yng nghlwyd pan o'n i yna, ac yng nghaerdydd 'fyd o bosib. welodd rhywun hi?