Dwi 'di cael yr ysfa [ unwaith eto ] i hel achau . Mae gen i lawer o wybodaeth yn barod ...lluniau , dyddiadau , llythyrau ayb ...digon i mi fedru cychwyn ar bethau . Ond mi fuaswn yn gwerthfawrogi help efo safleodd ar y we . Mi dreuliais i ychydig o amser ddoe yn trio chwilota am dudalenau fasa'n fy helpu i , ond mi es i ar goll yn y diwedd. Dwi'n sylweddoli y bydd yn rhaid i mi dalu am ragor o wybodaeth ar y census ayb , ond oes 'na un wefan sydd yn rhagori ar y lleill tybed ?
Mi fyddai'n cychwyn efo fy nheulu yn Llanllechid a Rachub. Oes 'na wefan gan y gymdeithas hanes lleol yno ?
Diolch.