Wn i ddim lle i roi hwn o gwbl! Ydach chi wedi gweld unrhyw siopau sydd efo enwau doniol/difyr/da (neu, yn well fyth, ofnadwy)?
Mae'n siwr bod lot ohonoch wedi clywed am y siopau sglod a sgod fel 'A Fish Called Rhondda' a 'The Codfather' - er dwi wastad wedi meddwl bod 'Y Mabinogion' yn enw cwl am un
Ond un o'm ffefrynnau i ydi siop ar Heol Penarth yng Nghaerdydd o'r enw 'Sell Fridges' - sydd wrth gwrs yn gwerthu teclynnau i'r cartref!
Y gwaethaf
Beauty on the Park - siop harddwch yng Nghaerdydd, sydd ddim ar y parc, nac yn eithriadol o agos ato chwaith.