Tudalen 1 o 2

Enwau da/crap am siopau

PostioPostiwyd: Iau 02 Gor 2009 11:08 am
gan Hogyn o Rachub
Wn i ddim lle i roi hwn o gwbl! Ydach chi wedi gweld unrhyw siopau sydd efo enwau doniol/difyr/da (neu, yn well fyth, ofnadwy)?

Mae'n siwr bod lot ohonoch wedi clywed am y siopau sglod a sgod fel 'A Fish Called Rhondda' a 'The Codfather' - er dwi wastad wedi meddwl bod 'Y Mabinogion' yn enw cwl am un :winc:

Ond un o'm ffefrynnau i ydi siop ar Heol Penarth yng Nghaerdydd o'r enw 'Sell Fridges' - sydd wrth gwrs yn gwerthu teclynnau i'r cartref!

Y gwaethaf
Beauty on the Park - siop harddwch yng Nghaerdydd, sydd ddim ar y parc, nac yn eithriadol o agos ato chwaith.

Re: Enwau da/crap am siopau

PostioPostiwyd: Iau 02 Gor 2009 11:11 am
gan osian
Dwi'n cofio siop yn Porthmadog chydig flynyddoedd yn ôl, Tudor Bakery yn Saesneg, Llecyn Llwnc yn Gymraeg. :D

Re: Enwau da/crap am siopau

PostioPostiwyd: Iau 02 Gor 2009 12:33 pm
gan anffodus
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Mae'n siwr bod lot ohonoch wedi clywed am y siopau sglod a sgod fel 'A Fish Called Rhondda' a 'The Codfather'


Paid â mentro i Ogledd Iwerddon - 'For Cod and Ulster' ac 'In Cod We Trust' aballu'n bla yno!

Re: Enwau da/crap am siopau

PostioPostiwyd: Iau 02 Gor 2009 1:12 pm
gan Hogyn o Rachub
Gallwn ni hefyd gynnwys enwau tafarndai yn y rhestr ddibwrpas 'ma. Mae 'na dafarn yng Nghaerdydd o'r enw The Pineapple, sy'n enw bur ryfedd am dafarn yn fy marn i, ond yn yr mwyaf od dwi wedi dod ar ei draws ydi The Pelican in her Piety yn Aberogwr :?

Re: Enwau da/crap am siopau

PostioPostiwyd: Iau 02 Gor 2009 4:30 pm
gan Chickenfoot
Oes siopau trin gwallt hefo enwau fel " A Cut Above!" a "Curl Up and Die" dal yn bodoli?

Re: Enwau da/crap am siopau

PostioPostiwyd: Iau 02 Gor 2009 8:13 pm
gan Beti
Rhywbeth tebyg yma viewtopic.php?f=43&t=20693

Troi'n Frown ydi'r ffefryn - ma di cau wan!

Re: Enwau da/crap am siopau

PostioPostiwyd: Iau 02 Gor 2009 10:19 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
Beti a ddywedodd:Rhywbeth tebyg yma http://www.maes-e.com/viewtopic.php?f=43&t=20693

Troi'n Frown ydi'r ffefryn - ma di cau wan!

diolch am atgyfodi hwn, beti! wedi chwerthin yn uchel... fy ffefryn i...

Dias a ddywedodd:Ddim yn enw siop, ond cofio gweld van cwmni oedd yn gwerthu cig cyw iar - ar gefn y van roedd y frawddeg - 'Poultry in motion'.

Gwychder pur.

Re: Enwau da/crap am siopau

PostioPostiwyd: Gwe 03 Gor 2009 1:54 am
gan Gwenci Ddrwg
Di Cymru ddim yn cymharu i frenin arwyddion shiti: Siapan. Sori, dim cystadleuaeth. Rhyw enghreifftiau (dim y gwaethaf ohonynt chwaith!):

http://tomgpalmer.com/wp-content/upload ... ngrish.jpg

http://engrishfunny.files.wordpress.com ... r-lady.jpg

http://engrishfunny.files.wordpress.com ... 9/homo.jpg

Re: Enwau da/crap am siopau

PostioPostiwyd: Gwe 03 Gor 2009 9:06 am
gan Cymro13
Clasur ar Penarth Road yn Grangetown

Delwedd

Priti taw washing machines sydd yn y ffenest :?

Re: Enwau da/crap am siopau

PostioPostiwyd: Gwe 03 Gor 2009 10:51 am
gan Beti
Siop tŵls yn Y Bala - Sbaner a Hanner!