Help gydag adeiladu ty

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Help gydag adeiladu ty

Postiogan Gwyn » Iau 16 Gor 2009 12:31 pm

Shwmai bawb.

Wy wrthi'n adeiladu ty (wel, dim fi yn bersonol, ond chi'n gwbod be sy da fi). Does da fi ddim profiad o'r math ma o beth, ond wy di penderfynu dilyn y trywydd is-gontractwyr, yn hytrach na chyflogi un cwmni unigol i neud yr holl waith. Oherwydd hyn, wy'n gorfod mynd nol a mlan o un contractwr i'r llall a trio gwitho mas pwy fydd yn neud beth a phryd - gwaith rhwystredig iawn! Yn amlwg, ma lot o bethe wy ddim yn deall am y diwydiant adeiladu a ma sawl peth yn peri penbleth i fi!

Ar hyn o bryd, ma'r dryswch mwya'n ymwneud a'r plumber a'r plastrwr.

Yn gynta, wedodd y plastrwr wrtha i bod angen i'r trydanwr a'r plumber orffen eu 1st fix nhw cyn iddo fe ddachre ar ei waith. Iawn, ges i'r all clear wrth y trydanwr a odd popeth o'n i'n darllen ar y we'n awgrymu'r un peth. Ond ar y ffon gyda'r plumber, wedodd e bydde fe ddim yn dod i osod unrhyw beips tan ar ol i'r plastrwr orffen. Y rheswm am hyn medde fe odd bod e ddim yn lico'r syniad o roi peips dwr lawr a wedyn bod y plastrwr yn difrodi nhw trw roi scaffolding ar y llawr neu sathru ar y peips. Alla i ddeall y ddadl, ond ma pawb yn gweud wrtha i dyle'r plumber orffen ei 1st fix cyn i'r plastrwr neud ei waith, a ma'r boi ma'n pallu neud! Ma hyn hefyd yn mynd i 'set us back' o ran y dyddiad symud i mewn, gan fod pawb wedi gweud gallwn nhw gael ni mewn cyn Dolig yn hawdd, ond bod y plumber wedi gweud bore ma bo hyn yn annhebygol achos bydd e'n cymryd amser i osod y peips i gyd a beni'r 1st a'r 2nd fix ar ol y plastro.

Os oes rhywun ar y maes yn gwbod unrhyw beth am blymio, plastro neu unrhyw beth arall alle daflu goleuni ar y mater ma i fi, plis postiwch ateb! Diolch yn fawr!
Shwdi boi
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 579
Ymunwyd: Iau 07 Ebr 2005 12:47 pm
Lleoliad: Clywedog

Re: Help gydag adeiladu ty

Postiogan Doctor Sanchez » Gwe 17 Gor 2009 1:03 pm

Di dy blymar di actiwali'n blymar? :ofn:

Os di'r sbarcis di 1st fficsio, mi ddylia chdi gal y plymar i fewn i osod y peipiau yn y nenfydau a'r drops yn y waliau ar gyfer y radiators. Wedyn ma'r plastrwr yn plasterboardio ac yn plastro/dryleinio, cyn i'r sbarcis a'r plymars ddod yn ol i second fficsio.

Fedri dim plasterboardio heb i'r plymar redag i beips drwadd gynta.

Be sgin ti underfloor heating?
Not my fault. Monkey bastard hands!

WHAT!? Am I holding a crock of shit!? Tell me something. Is this hospital called "St. Crock of Shit"!?
Rhithffurf defnyddiwr
Doctor Sanchez
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 160
Ymunwyd: Llun 10 Maw 2008 1:02 pm
Lleoliad: Ysbyty ManTywyll

Re: Help gydag adeiladu ty

Postiogan Gwyn » Gwe 17 Gor 2009 1:43 pm

Odi, ma plumber fi yn plumber (apparently)!

Ie, underfloor bydd da fi ar y ground floor (ground source heat pump), a dim system wresogi o gwbl ar y llawr cynta (heblaw towel rail yn yr en-suite). Wy'n deall pam odd y plumber ddim ise rhoi peips yr underfloor lawr cyn i'r plasterer fod, ond fel ti'n gweud, sain deall pam alle fe ddim rhoi'r peips dwr ar gyfer y sinks, toiledau ac ati yn eu lle'n barod.

Mas o ddiddordeb, oes rhywun yn gwbod rhwbeth o werth am Heating and Boilers (Dyfed) o Gastell-newydd Emlyn?
Shwdi boi
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 579
Ymunwyd: Iau 07 Ebr 2005 12:47 pm
Lleoliad: Clywedog

Re: Help gydag adeiladu ty

Postiogan Gwyn » Maw 21 Gor 2009 9:36 am

Neu oes rhywun yn gwbod am blumber da yn ardal Aberystwyth (preferably gyda phrofiad o osod Heat Pump)?
Shwdi boi
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 579
Ymunwyd: Iau 07 Ebr 2005 12:47 pm
Lleoliad: Clywedog


Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron