Help gydag adeiladu ty
Postiwyd: Iau 16 Gor 2009 12:31 pm
Shwmai bawb.
Wy wrthi'n adeiladu ty (wel, dim fi yn bersonol, ond chi'n gwbod be sy da fi). Does da fi ddim profiad o'r math ma o beth, ond wy di penderfynu dilyn y trywydd is-gontractwyr, yn hytrach na chyflogi un cwmni unigol i neud yr holl waith. Oherwydd hyn, wy'n gorfod mynd nol a mlan o un contractwr i'r llall a trio gwitho mas pwy fydd yn neud beth a phryd - gwaith rhwystredig iawn! Yn amlwg, ma lot o bethe wy ddim yn deall am y diwydiant adeiladu a ma sawl peth yn peri penbleth i fi!
Ar hyn o bryd, ma'r dryswch mwya'n ymwneud a'r plumber a'r plastrwr.
Yn gynta, wedodd y plastrwr wrtha i bod angen i'r trydanwr a'r plumber orffen eu 1st fix nhw cyn iddo fe ddachre ar ei waith. Iawn, ges i'r all clear wrth y trydanwr a odd popeth o'n i'n darllen ar y we'n awgrymu'r un peth. Ond ar y ffon gyda'r plumber, wedodd e bydde fe ddim yn dod i osod unrhyw beips tan ar ol i'r plastrwr orffen. Y rheswm am hyn medde fe odd bod e ddim yn lico'r syniad o roi peips dwr lawr a wedyn bod y plastrwr yn difrodi nhw trw roi scaffolding ar y llawr neu sathru ar y peips. Alla i ddeall y ddadl, ond ma pawb yn gweud wrtha i dyle'r plumber orffen ei 1st fix cyn i'r plastrwr neud ei waith, a ma'r boi ma'n pallu neud! Ma hyn hefyd yn mynd i 'set us back' o ran y dyddiad symud i mewn, gan fod pawb wedi gweud gallwn nhw gael ni mewn cyn Dolig yn hawdd, ond bod y plumber wedi gweud bore ma bo hyn yn annhebygol achos bydd e'n cymryd amser i osod y peips i gyd a beni'r 1st a'r 2nd fix ar ol y plastro.
Os oes rhywun ar y maes yn gwbod unrhyw beth am blymio, plastro neu unrhyw beth arall alle daflu goleuni ar y mater ma i fi, plis postiwch ateb! Diolch yn fawr!