Tudalen 1 o 1

Scratch Orchestra yn Ynys Môn

PostioPostiwyd: Sul 04 Hyd 2009 5:25 pm
gan Gorwel Dau
Dwi’m yn siŵr os mai hon ydi’r seiat briodol - falla dylsa’r neges fod yn un o’r rhai sy’n gysylltiedig â cherddoriaeth yn benodol? Beth bynnag, ym 1970 fe ddaeth grŵp o gerddorion (Scratch Orchestra) ar daith i Ynys Môn. Roeddynt yn chwarae cerddoriaeth eithaf arbrofol mewn neuaddau bychan - gweler dyddiadau isod. Mae ‘na ‘chydig wedi ei sgwennu gan aelodau’r grŵp ynglŷn â’r cyngherddau ond does ddim gwybodaeth ar gael, hyd y gŵn i, ynglŷn ag ymateb y cynulleidfaoedd a/neu unrhyw gyfraniaid gan gerddorion/gwrandawyr lleol. Rwy’n awyddus i wneud cysylltiad ag unrhyw un oedd falla’n bresennol.

Dyddiadau. Awst 1970
3ydd Neuadd Y Pentref Pentraeth
4ydd Neuadd Y Pentref Cemaes
5ed Neuadd Y Pentref Aberffraw
6ed Neuadd Y Pentref Bodedern
7ed Eglwys Llanfihangel Tre'r Beirdd

Gorwel