Tudalen 1 o 1

Digwyddiadau eiconig yn hanes Cymru

PostioPostiwyd: Maw 13 Hyd 2009 6:57 pm
gan Jaff-Bach
Be ydachidn gysidro fel digwyddiadau pwysig yn hanes Cymru?
Dwin fy 3ydd blwyddyn yn brifysgol yn neud dylunio ar gyfer perfformiadau, a wedi penderfyny selio mhrosiect dylunio mawr ar ddigwyddiadau yn hanes Cymru. Dwi'n edrych yn enwedig ar engrheifftiau eiconig o orthrwm yn y gorffennol, ein traddodiadau a diwylliant, a dathlu be sydd genani rwan fel cenedl.

Dwin chwilio am bethau fel;

Boddi Tryweryn
Y Welsh Not
Streic chwarel y Penrhyn
Ennill Senedd i Gymru
Gwynfor Evans
Y Mabinogion
Coroni Charles

Dwi ddim yn ymeising efo hanes Cymru, a ma genai ddiddordeb i weld be mae pawb yma yn gysidro yn ddigwyddiadau pwysig ini fel cenedl, be sydd wedi ein siapio fel pobl a fel gwlad, sa'n ofnadwy o briliant sachin gallu cyfranu be dachin feddwl am hyn....cheers bois :)

Re: Digwyddiadau eiconig yn hanes Cymru

PostioPostiwyd: Maw 13 Hyd 2009 8:33 pm
gan Cedwyn
Be' am Iolo Morganwg yn sefydlu Gorsedd y Beirdd yn 1792?

http://en.wikipedia.org/wiki/Gorsedd

Re: Digwyddiadau eiconig yn hanes Cymru

PostioPostiwyd: Maw 13 Hyd 2009 9:37 pm
gan ap Dafydd
Merthyr 1831?

Re: Digwyddiadau eiconig yn hanes Cymru

PostioPostiwyd: Mer 14 Hyd 2009 9:18 am
gan Hogyn o Rachub
Dyma rai y byddwn i'n eu cynnig:

Brwydr Caer yn 616
Llunio Cyfreithiau Hywel Dda
Cilmeri 1282
Gwrthryfel Owain Glyndwr
Y Deddfau Uno
Cyfieithu'r Beibl
Gwrthryfel Merthyr
Streic y Penrhyn
Ethol Keir Hardie a chynnydd Llafur yng Nghymru
Dadsefydlu Eglwys Lloegr
Sefydlu Plaid Cymru
Boddi Tryweryn
Streic y Glöwyr
Refferendwm '97

Re: Digwyddiadau eiconig yn hanes Cymru

PostioPostiwyd: Iau 15 Hyd 2009 2:05 pm
gan Jaff-Bach
Diolch yn fawr am yr ymatab hyd yn hyn, ma heina i gyd yn awgrymiada gret ifi eu defnyddio! Os sa rywun yn gallu meddwl am fwy,dewch a nhw :-)

Re: Digwyddiadau eiconig yn hanes Cymru

PostioPostiwyd: Iau 15 Hyd 2009 3:46 pm
gan Ger Rhys
Tynnu arwyddion,
S4C,
Y Gadair Ddu,
Pont Trefechan,
Brad y Llyfrau Gleision,
Penyberth,
Eileen Beasley.

Daw mwy i gof.