Be ydachidn gysidro fel digwyddiadau pwysig yn hanes Cymru?
Dwin fy 3ydd blwyddyn yn brifysgol yn neud dylunio ar gyfer perfformiadau, a wedi penderfyny selio mhrosiect dylunio mawr ar ddigwyddiadau yn hanes Cymru. Dwi'n edrych yn enwedig ar engrheifftiau eiconig o orthrwm yn y gorffennol, ein traddodiadau a diwylliant, a dathlu be sydd genani rwan fel cenedl.
Dwin chwilio am bethau fel;
Boddi Tryweryn
Y Welsh Not
Streic chwarel y Penrhyn
Ennill Senedd i Gymru
Gwynfor Evans
Y Mabinogion
Coroni Charles
Dwi ddim yn ymeising efo hanes Cymru, a ma genai ddiddordeb i weld be mae pawb yma yn gysidro yn ddigwyddiadau pwysig ini fel cenedl, be sydd wedi ein siapio fel pobl a fel gwlad, sa'n ofnadwy o briliant sachin gallu cyfranu be dachin feddwl am hyn....cheers bois