Sialens ddwyieithog

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Sialens ddwyieithog

Postiogan marikafusser » Llun 24 Ion 2011 11:58 am

Ydych chi'n siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl? Beth am roi cynnig ar ein sialens ddwyieithog?
Rydyn ni'n cynnal cyfres o arbrofion lle mae parau o bobl yn cystadlu yn erbyn eu gilydd i ennill bocs o siocled. Ar ben hynny bydd pawb yn cael £5 am gymryd rhan.
Pwy geith gystadlu? Parau o bobl rhwng 18 a 30 oed sy'n siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl.
Dyna beth fydd eisiau i chi wneud: (a) tasg lle mae gofyn i ddau o bobl gydweithio er mwyn cyrraedd y nod - a'r pâr mwya sydyn o bawb yn cael bocs o siocled; (b) tasg gwrando ac ymateb.
Bydd gofyn i chi ddod i'r Ganolfan Ddwyieithrwydd ym Mangor Uchaf a dod ag awr o amser.
Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â Marika Fusser neu M. Carmen Parafita Couto yng Nghanolfan ESRC dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd:
ffôn: 01248-388576 neu 388574;
e-bost: m.fusser@bangor.ac.uk
marikafusser
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Llun 24 Ion 2011 10:15 am

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai