Tudalen 1 o 1

Sbondonics/Penbwl

PostioPostiwyd: Iau 17 Chw 2011 10:33 am
gan Iestyn
Helo pawb,

Mi dwi'n chwilio am ychydig o'r cylchgrawn 'Penwbl' neu 'Sbondonics' (Dwim yn cofio be di'r gwahanniaeth dim mwy!) - ag yn meddwl holi yma, I weld os fedrith rhiwyn fy helpu, ag efallai sgannio un dudalen i few os oes na rhiwyn hefo rhai. Mi roedd gennai glamp o gasgliad pam oni'n fychain,ond rwan pam dwi 'i angen nhw - does genai ddim syniad lle ma nhw. Typical!

Plis dorwch showt os allwch chi fy'n helpu.
Diolch

Re: Sbondonics/Penbwl

PostioPostiwyd: Iau 17 Chw 2011 11:52 pm
gan huwwaters
O be dwi'n ei gofio, Sbondonics oedd ryw gatalog 'mail-order' llawn llyfrau Cymraeg i blant.

Penbwl oedd ryw comic i oedrannau 7 a iau dwi'n meddwl, tra'r oedd ne Cip i rai 7 a hynach.

Gobeithio bod hyn yn helpu. Dwi'm yn siwr os oedd gan Penbwl a Cip cysylltiad รข'r Urdd.

Re: Sbondonics/Penbwl

PostioPostiwyd: Gwe 18 Chw 2011 3:17 am
gan Manon
'Dwi'n reit siwr mai Gerallt Lloyd Owen oedd golygydd Penbwl. Nes i ennill walkman ganddyn nhw pan o'n i'n saith. 8)

Re: Sbondonics/Penbwl

PostioPostiwyd: Gwe 18 Chw 2011 12:26 pm
gan Iestyn
Hei.

Dwi'n cofio'r catalog 'na! Ha! Roedd hwna'n wych! Penbwl dwi angen felly - roedd na comic strip ynddo bob mis, a dwi angen ychydig o rhai wahannol er mwyn cael syniadau. Neb hefo copi yn cicio o gwmpas? Efallai bydd y Llyfrgell yn Nghaernarfon efo ychydig?

Re: Sbondonics/Penbwl

PostioPostiwyd: Gwe 18 Chw 2011 4:10 pm
gan dawncyfarwydd