Tudalen 1 o 2

Cyfenw newydd sbon i faban newydd sbon!

PostioPostiwyd: Maw 27 Medi 2011 3:59 pm
gan garik
Dwi'n disgwyl baban yn y dyfodol agos, ac dydy 'ngwraig i ddim yn rhannu 'nghyfenw i. Dan ni ddim eisiau i'n mab "berthyn" i'r un ohonym yn fwy nag i'r llall (trwy rannu enw), ac mae ein cyfenwau yn rhai eitha diflas beth bynnag. Felly dan ni'n bwriadu peidio rhoi cyfenw etifeddol iddo fo, ond i ddewis un newydd sbon. Mae lot o Gymry yn "gollwng" eu cyfenwau ac yn defnyddio eu enwau canol yn eu lle; dan ni jest yn bwriadu neud hyn o'r dechrau un, ac yn ei neud yn swyddogol ar y dystysgrif eni.

Dach chi wedi clywed o bobl arall yn neud yr un beth? Be dach chi'n meddwl o'r syniad? Mae lot of bobl o du allan i Gymru wedi ymated yn ansicr iawn iddo fo!

Re: Cyfenw newydd sbon i faban newydd sbon!

PostioPostiwyd: Mer 28 Medi 2011 8:54 am
gan ceribethlem
Fi'n nabod coeled o bobl sy'n defnyddio'i ail enwau yn unig. Dyw e ddim yn anarferol iawn.

Re: Cyfenw newydd sbon i faban newydd sbon!

PostioPostiwyd: Gwe 30 Medi 2011 2:22 am
gan garik
ceribethlem a ddywedodd:Fi'n nabod coeled o bobl sy'n defnyddio'i cyfenw yn unig. Dyw e ddim yn anarferol iawn.


Pobl yn defnyddio'u cyfenw yn unig? Dwi'n siwr, ond nid am hynny oeddwn i'n son.

Re: Cyfenw newydd sbon i faban newydd sbon!

PostioPostiwyd: Gwe 30 Medi 2011 6:47 am
gan sian
Mae hyn yn digwydd yn eithaf aml yng Nghymru.
Mae pobl yn rhoi cyfenwau gwahanol i'w plant - weithiau mae'n rhyw fath o enw teuluol neu'n enw ar ryw nodwedd o'r ardal neu jest yn enw mae'r rhieni'n ei hoffi.

Wynfford James + Menna Elfyn - Fflur Dafydd

Heledd Cynwal

Dymuniadau gorau!

Re: Cyfenw newydd sbon i faban newydd sbon!

PostioPostiwyd: Gwe 30 Medi 2011 9:10 am
gan ceribethlem
garik a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Fi'n nabod coeled o bobl sy'n defnyddio'i cyfenw yn unig. Dyw e ddim yn anarferol iawn.


Pobl yn defnyddio'u cyfenw yn unig? Dwi'n siwr, ond nid am hynny oeddwn i'n son.


Wps. Wedi ei drwsho nawr :wps:
Ail enwau fel cyfenwau oeddwn i'n meddwl.

Re: Cyfenw newydd sbon i faban newydd sbon!

PostioPostiwyd: Gwe 30 Medi 2011 11:12 pm
gan Nei
Does gen i ddim yr un cyfenw a fy nhad. Stockley yw ei gyfenw fe. Karadog yw fy un i. Cyfenw gwneud llwyr aoedd yn gyfaddawd rhwng cymro a llydawes(sef mam).

Re: Cyfenw newydd sbon i faban newydd sbon!

PostioPostiwyd: Sad 01 Hyd 2011 12:19 am
gan Hen Rech Flin
Er mwyn gwahaniaethu rhwng y niferoedd o John Jones, William Williams, David Davies ac ati roedd yn draddodiad Cymreig cyffredin i ddefnyddio enw lle fel cyfenw answyddogol. Dic Penderyn, Will Bala, Dafydd Pant ac wrth gwrs y coiboi enwog John Waun

Re: Cyfenw newydd sbon i faban newydd sbon!

PostioPostiwyd: Sul 02 Hyd 2011 1:12 am
gan garik
Diolch am eich sylwadau! Wedi cael fy magu yng Nghymru, dwi'n hollol cyffyrddus efo'r syniad o blant sydd â chyfenwau gwahanol i'w rhieni. Ond mi adawais i Gymru mwy na ddeng mlynedd yn ôl, ac mae pobl tu allan weithiau yn ymateb yn rhyfedd i syniadau fel hyn. Wrth gwrs, mae pobl ym mhobman yn ymateb yn rhyfedd i bethau sydd yn groes i'w profiad nhw, yn endwedig pan mae'n ymwneud â phlant. Mae'n neis gael f'atgoffa nad ydw i'n neud ddim byd wallgo.

Ac dydy hyn ddim yn gwestiwn damcaniaethol ddim mwy chwaith: dwi'n hynod o falch o gyhoeddi genedigaeth fy mab, Iorwerth Rowan, tri diwrnod yn ôl yn Efrog Newydd.

Re: Cyfenw newydd sbon i faban newydd sbon!

PostioPostiwyd: Sul 02 Hyd 2011 6:37 am
gan sian
Llongyfarchiadau a chroeso mawr i Iorwerth Rowan!
Shwt mae pobl Efrog Newydd yn dygymod â dweud yr enw?

Re: Cyfenw newydd sbon i faban newydd sbon!

PostioPostiwyd: Sul 02 Hyd 2011 7:15 am
gan Hen Rech Flin
garik a ddywedodd:dwi'n hynod o falch gyhoeddi genedigaeth fy mab, Iorwerth Rowan, tri diwrnod yn ôl yn Efrog Newydd.


Llongyfarchiadau mawr