Helo
Mae gobaith sefydlu grwp Clocsio i oedolion (h.y. yn hytrach na grwp i blant, nid clocsio X rated dwi'n ei olygu...) yng Nghaernarfon.
Y tebygolrwydd yw y bydd y sesiwn ar Nos Lun, rhwng 7pm ac 8.30pm.
Yn adeilad Yr Aelwyd, Stryd yr Eglwys, Caernarfon LL55 1SW
(y trefniadau heb eu cadarnhau eto - ryda ni wrthi yn rhoi y teimlyddion allan i asesu lefelau diddordeb ar hyn o byrd.
Os oes diddordeb gennych cysylltwch gyda mi. Croeso mawr i glocswyr, cerddorion neu rai profiadol allai helpu gydag hyfforddi'r bumblies fel fi.
http://www.youtube.com/watch?v=SoQhRTb4R04
...gorffen mewn pryd i fynd i'r amrywiol sesiynau gwerin lleol erbyn 9pm:
Boatyard, Bangor (2il nos Lun y mis)
Porth yr Aur, Caernarfon (3ydd)
Tyn Llan, Nant Peris (olaf)