pwy sisio clywad joc wael?!
Ath na chwadan mewn i dafarn, a gofyn am beint. Boi tu ol y bar yn deud sori da ni'm yn syrfio chwiaid, so off a'r chwadan. Ma'n dod mewn y diwrnod wedyn, gofyn am beint, barman yn deud sori da ni'm yn syrfio chwiaid. Dod mewn y diwrnod wedyn hefyd, a ma'r barman yn deud yli, dwi di deutha chdi, da ni'm yn serfio chwiaid iawn? os ti'n dod mewn eto nai hoelio dy fflipin big di i'r bar ma! So off a'r chwadan.
Ma'n dod mewn y diwrnod wedyn hefyd.
"bore da, ga i beint plis?"
"Yli boi..." medda'r barman
"Wel," medda'r chwadan."sgin ti fwrthwl? nagos. Sgin ti hoelan? nagos. Gai beint plis?"
Be am hon.
Faint o Gymry mai'n i cymryd i newid bwlb gola?
Newid?!?!?!
(ma hon ar maes e'n barod rwla, fedra i'm hawlio credit!)