Mae Cymro, Sais a Gwyddel yn glanhau'r traeth yn Aberystwyth ac yn dod o hyd i botel o liw porffor ar y tywod. Dyma'r Sais yn ei chodi, a chyn ei rhoi yn y bag swbriel mae e'n tynnu'r corc i weld a oes ychydig o win yn y gwaelod y gallai ei yfed. Yn sydyn dyma ysbryd yn dod allan ohoni.
"Rych chi wedi f'achub o'r botel, gyfeillion!" meddai yn Gymraeg. "Fe gaiff pob un ddymuniad gen i."
Mae'r Gwyddel yn dweud, "Rw i wedi dod i fyw i bentre bach ar bwys Aberystwyth, ac rw i'n dysgu Cymraeg, ond hoffwn i siarad Cymraeg yn rhugl, fel Cardi."
A ffrwst! Mae'r Gwyddel yn medru parablu Cymraeg yn union fel Cardi.
Dyma'r Sais yn gofyn yn ei iaith ei hun beth ddywedodd yr ysbryd. Mae'r Cymro yn esbonio iddo 'i fod e'n cael gwneud dymuniad.
"Rw i wedi dod i fyw i bentre bach ar bwys Aberystwyth, ac wrth lwc Saeson i gyd sydd yn byw yno. Mae arna i eisiau i chi roi wal o gwmpas y pentre, i gadw'r Welshis allan."
"O'r gorau," meddai'r ysbryd. "Mae gen ti wal o'i gwmpas."
Tro'r Cymro yw e nawr. "Gweud 'tho i," meddai wrth yr ysbryd, "sut wal yw honno o gwmpas y pentre?"
"Wel, un hanner can troedfedd o drwch, a chant a hanner o droedfeddi o uchder. Fydd dim yn gallu mynd mewn a dim yn gallu dod ma's."
"Wel hoffwn i gael cronfa ddwr i dre Aberystwyth. Llanw bentre'r Sais gythrel 'na hyd y fyl".