Tudalen 1 o 16

Jôcs

PostioPostiwyd: Maw 16 Rhag 2003 3:07 pm
gan mul
sgin rywun jôcs (da) i rannu? gwaith yn h i r ag yn boring... :(

PostioPostiwyd: Maw 16 Rhag 2003 3:25 pm
gan Al Jeek
Jôc o wefan Y Gym Gym. Ymunwch am fwy!

Un diwrnod, mae Iesu Grist a Sant Paul yn eistedd yn y nefoedd yn siarad am y llygru afiach sydd ar y Ddaear. Ar ôl sylweddoli difrifoldeb y mater, maen't yn trio meddwl am ffordd o wella ffyrdd afiach dyn o lygru. Felly, mae Paul a Iesu yn penderfynnu ymweld a Dinbych-Y-Pysgod er mwyn ymweld a'r sefyllfa yn fwy manwl.
Pan maen't yn cyrraedd yno, mae Iesu yn gofyn i Paul am beth oedd bwrpas y beipen fawr oedd yn ymestyn allan i'r mor. Mae Paul yn esbonio fod y beipen yn cario gwastraff dyn ac yn ei gario allan i fôr yr Iwerydd, sydd yn ei dro yn lladd anifeiliad acwatig.
Felly, mae Iesu yn dewis gwneud rhywbeth am y sefyllfa, ac yn dechrau cerdded allan i'r mor. Mae Paul yn ei ddilyn, ond arol ychydig mae'r dwr budur i fyny i'w ben-gliniau, ond mae Iesu dal i gerdded ar arwyneb y dwr. Er hynny, mae Paul yn dal i ddilyn ei feistr. Ond cyn bo hir mae pethau yn mynd o ddrwg i waeth ac mae Paul yn ffeindio ei hun i fyny at ei en mewn dwr budur.
"Meistr!" mae'n galw, "Na'i ddilyn ti i unrhyw le, ond os dwi'n mynd ychydig ymhellach, byddwn yn boddi mewn dwr carthiog!"
Mae Iesu yn troi ei ben ac yn edrych ar Paul, gan ysgwyd ei ben yn ddamynedd.
"Pam ti'm yn cerdded ar y blydi peipen fel fi ta?"

Bwm Bwm! :D

PostioPostiwyd: Maw 16 Rhag 2003 4:25 pm
gan DAN JERUS
Tair blonden yn cael eu chaso gan yr heddlu yng nhghefn gwlad.Maent yn rhedeg mewn i feudy i guddio ac maent yn penderfynnu neidio mewn i sachau i guddio.Mae'r heddlu'n ymddangos ac yn rhoi cic ir sach gyntaf.Mae nhw'n clywed swn "miaaawww" felly maent yn meddwl eu bod wedi deffro cath neu rhywbeth.Maent yn symud ymlaen ir ail sach ac yn rhoi cic i hwnnw.Maent yn clywed swn cyfarth felly maent yn meddwl eu bod wedi deffro sach o gwn bach.Maent yn cicio'r trydedd sach ac maent yn clwed rhywun yn dweud "cabbages, cabbages"....sori

PostioPostiwyd: Maw 16 Rhag 2003 5:05 pm
gan mul
:? owwwwwww.
methu penderfynu p'run sy' waetha :winc:

PostioPostiwyd: Maw 16 Rhag 2003 6:13 pm
gan Ramirez
naaaaa Dan Jerus, dim tair blonden, ond brunette, cochen, a blond- y flond sy'n deud 'cabbages'

PostioPostiwyd: Mer 17 Rhag 2003 11:16 am
gan brenin alltud
(I'r rhai o'r gogledd)

Cwestiwn: Be ti'n galw boy racer o'r Bala?
Ateb: Wa-n'car
:lol:

Cwestiwn: Be ti'n galw plisman o Lanberis?
Ateb: Copa'r Wyddfa!

(I'r rhai o'r de)
Cwestiwn: Be ffeindion nhw ar lawr y car ar ol y crash na'th ladd Diana?
Ateb: Dannedd dodi!

Yr hen rai di'r goreuon...

PostioPostiwyd: Mer 17 Rhag 2003 12:34 pm
gan DAN JERUS
ramirez;
{naaaaa Dan Jerus, dim tair blonden, ond brunette, cochen, a blond- y flond sy'n deud 'cabbages'}

Wel dwi erioed wedi bod yn un am bolisho twrden Ramirez! :winc:

PostioPostiwyd: Mer 17 Rhag 2003 12:35 pm
gan Penbandit
Cae mawr yn llawn o eira, a dau ddyn eira ym mhob pen. Un o'r dynion eira yn mynd draw at y llall, ac yn sniffian o flaen ei wynab.

"Ydi'n drewi o foron yma, dwad?"

PostioPostiwyd: Mer 17 Rhag 2003 1:09 pm
gan eusebio
Dyma fi'n dweud wrth y boi yng ngorsaf trêns Bangor "I want to go to Paris". "Eurostar?" meddai. "Well I've been on telly, but I'm no Dean Martin".

:lol:

PostioPostiwyd: Mer 17 Rhag 2003 1:19 pm
gan Ramirez
DAN JERUS a ddywedodd:ramirez;
{naaaaa Dan Jerus, dim tair blonden, ond brunette, cochen, a blond- y flond sy'n deud 'cabbages'}

Wel dwi erioed wedi bod yn un am bolisho twrden Ramirez! :winc:


ia, ond di'r joc ddim wir yn neud sens fel nesdi ddeud hi ;)!