Jôc o wefan
Y Gym Gym. Ymunwch am fwy!
Un diwrnod, mae Iesu Grist a Sant Paul yn eistedd yn y nefoedd yn siarad am y llygru afiach sydd ar y Ddaear. Ar ôl sylweddoli difrifoldeb y mater, maen't yn trio meddwl am ffordd o wella ffyrdd afiach dyn o lygru. Felly, mae Paul a Iesu yn penderfynnu ymweld a Dinbych-Y-Pysgod er mwyn ymweld a'r sefyllfa yn fwy manwl.
Pan maen't yn cyrraedd yno, mae Iesu yn gofyn i Paul am beth oedd bwrpas y beipen fawr oedd yn ymestyn allan i'r mor. Mae Paul yn esbonio fod y beipen yn cario gwastraff dyn ac yn ei gario allan i fôr yr Iwerydd, sydd yn ei dro yn lladd anifeiliad acwatig.
Felly, mae Iesu yn dewis gwneud rhywbeth am y sefyllfa, ac yn dechrau cerdded allan i'r mor. Mae Paul yn ei ddilyn, ond arol ychydig mae'r dwr budur i fyny i'w ben-gliniau, ond mae Iesu dal i gerdded ar arwyneb y dwr. Er hynny, mae Paul yn dal i ddilyn ei feistr. Ond cyn bo hir mae pethau yn mynd o ddrwg i waeth ac mae Paul yn ffeindio ei hun i fyny at ei en mewn dwr budur.
"Meistr!" mae'n galw, "Na'i ddilyn ti i unrhyw le, ond os dwi'n mynd ychydig ymhellach, byddwn yn boddi mewn dwr carthiog!"
Mae Iesu yn troi ei ben ac yn edrych ar Paul, gan ysgwyd ei ben yn ddamynedd.
"Pam ti'm yn cerdded ar y blydi peipen fel fi ta?"
Bwm Bwm!