Mae'n amhosib gwrthbrofi bodolaeth Duw...
Sion Corn
Yeti
Bwystfil Loch ness
Bodion gwyrdd mewn soseri hedfan
Tylwyth teg dan llwythi yn yr ardd
Trol dan pont
coblynod mewn ogofau
Eliffant y paith yr UDA
Nandi Bear
ayyb
Mewn ffordd dwi'n "Credu" ynddyn nhw i gyd - sef dwi'n debyg o "deimlo" eu bod nhw'n wir er fy mod i'n "credu" dyn nhw ddim. Weithiau dwi'n gweddi. Ond dwi ddim yn "wir" credu am fod Atheist ydw i.
Fel Nic dwi'n gallu cynnal dau syniad croes yn fy ymenydd.
Ond y pwynt yw taw mae cyn lleiaf o dystiolaeth amdanynt y mae'n afresymol i ddweud mae'n nhw'n bodoli. Os wyt am dderbyn geiriau pobl eraill sy'n amhosib i'w profi - wel lan iti yw e. Ond peidiwch â dweud bod rheswm sydd y tu ôl i'r cred. Syniad/teimlad goddrychol yw e.
Mae cael meddwl agored yn peth da. Ond nid mor agored y gallech cael eich twyllo. - Er fy mod i'n gweld gall ochr diwylliannol/cymdeithasol o grefydd bod yn adeiladol i dynnu cymdeithas at ei gilydd.
O.N.
Dwedais i am y rhesymau dwfn seicolegol am gredu mewn duw yn dod o blentyndod. Doeddwn i ddim disgwyl i'r gair "Plentynaidd" yn cael ei ddefnyddio fel gair sarhad wedyn. Mae lot o bethau seicolegol sy'n dod o fabandod/plentyndod - sdim byd o'i le â hynny. Roedd Dr Robert Winston ar y Radio yn diweddar yn dweud i fod e'n credu y mae fath o fantais esblygol mewn cred - ddim yn colli gobaith mewn argyfwng a felly rhoi siawns ychwanegol i'ch hun goroesi. Sdim byd plentynaidd yn hynny