gan Cymro13 » Iau 29 Ebr 2004 1:11 am
YSGOL CWM-COCH
Sais bach yn dod adre o ysgol gynradd Cwm-coch, ac yn gweud yn yr iaith fain wrth ei fam,
"Dysgon nhw i ni heddi sut i gyfri yn Gymraeg. A fi oedd y gorau! Dim ond hyd at bump o'dd y lleill yn gallu mynd, ond o'n i'n gallu cyfri hyd at ddeg. Gwrando, mami - un, dau, tri, pedwar, pump, chwech, saith, wyth, naw, deg!"
"Da iawn, machgen i."
"Ai oherwydd taw Sais w i mod i'n gwneud yn well na nhw?"
"Ie, wrth gwrs, machgen i. Ryn ni'r Saeson ym maeddu'r Cymry bob tro."
Y diwrnod wedyn, dyma'r Sais bach yn dod nôl o ysgol gynradd Cwm-coch, ac yn gweud yn yr iaith fain wrth ei fam,
"Dysgon nhw i ni heddi sut i ddweud yr abiéc. A fi oedd y gorau! Dim ond hyd at 'D' o'n nhw'n gallu mynd, ond o'n i'n gallu dweud hyd at 'G'! Gwrando, mami - A, B C, CH, D, DD, E, F, NG, G!"
"Da iawn, machgen i."
"Ai oherwydd taw Sais w i mod i'n gwneud yn well na nhw?"
"Ie, wrth gwrs, machgen i. Mae'r Saeson yn glyfrach o lawer na'r hen Welshis twp 'na."
Y diwrnod wedyn, dyma'r Sais bach yn cyrraedd adre o ysgol gynradd Cwm-coch, ac yn gweud yn yr iaith fain wrth ei fam,
"Dysgon nhw i ni heddi am droedfeddi a modfeddi. A bu rhaid gweud pa mor dal w i , a fi oedd y tala! Ro'n i'n dalach o ddwy droedfedd na gweddill y dosbarth!"
"Da iawn, machgen i."
"Ai oherwydd taw Sais w i mod i'n dalach na nhw?"
"Nage, cariad bach. Chwech oed ÿw pawb arall, ond saith ar hugain wÿt ti."