gan S.W. » Mer 28 Ebr 2004 12:53 pm
Cyfieuthiad di'r joc yma allan o gylchgrawn ond mi newidiai hi iw wneud yn perthnasol i Gymru.
Dau ddyn Twm a Bob wedi bod yn yfed trwy'r dydd yn y Llew Du yn Aberystwyth, y ddau wedi meddwi'n racs. Y peth nesa mae Twm yn chwydu dros ei grys ei hun.
Twm: "O shit, be wnai, nes i addo wrth y wraig na fyddwn in mynd mewn i'r fath stâd heno"
Bob: "Paid a phoeni Twm, dyrro £10 yn poced dy got, cer adre a duda wrth y wraig bod rhyw feddwyn di cerdded heibio ti, di chwydu drostat a di rhoi £10 i dalu am ei lanhau, bydd hi dim callach."
Felly, mae'r ddau yn parhau i yfed. Am 11:00 mae'r barman yn taflu nhw allan felly adre a nhw.
Mae Twm yn cerdded mewn iw dy a pwy sy'n aros amdano ydy'r wraig
"Be ddiawl ti di bod yn neud, nes i ddeud wrthat ti am beidio mynd mewn i'r fath stad"
Twm: Dim fi oedd o, rhywfoi, spia yn fy mhoced a rhoddodd £10 i lanhau o.
Mae ei wraig yn edrych yn ei boced ac yn tynnu 2 papur £10 allan.
"Pam bod yne ddau yn dy boced di?"
Twm: "O, nath o gachu yn fy nhrwsus i hefyd"