Tudalen 1 o 5
Jôcs Cymrâg
Postiwyd:
Gwe 23 Ion 2004 4:31 pm
gan Ray Diota
Sdim gormodedd o jôcs Cymrâg nagoes? Ges i 'gracyrs dwyieithog moethus' dros Dolig ac odd y jôcs yn gach.
Pam fyddech chi'n chware rygbi mewn stafell wely?
Er mwyn taclo'r mes.
Pryd yw'r adeg gore i ffonio rywun yn Awstralia?
Pan ma nhw mas.
a lot o rai eraill, gwaeth. Wir ffacin yr! So...wi moyn eich jôcs Cymraeg, Cymreig a gwrth-seisnig chi.
Awe.
Postiwyd:
Gwe 23 Ion 2004 4:33 pm
gan Ray Diota
O ffwc. CYMEDROLWR!!! Dwi newydd weld y sgwrs jocs lawr y tabl. Cachu ar fy blydi chips i do? ABORT!
Postiwyd:
Gwe 13 Chw 2004 6:32 pm
gan Manon
Be ti'n galw boi efo tarw saesneg ar ei ben?
Penbwl!!!!!
Postiwyd:
Gwe 13 Chw 2004 7:09 pm
gan Dr Gwion Larsen
Ma pob joc cracker yn gachu!
Postiwyd:
Gwe 13 Chw 2004 7:31 pm
gan Lowri Fflur
Oddna Sais Gwyddal a Cymro ar gwch.
Yn gyntaf nath y Gwyddal luchio datws dros ochr y gwch, gofynodd y Sais wrtho "pam nesd di huna?", atebodd "achos mae yna ormod o heina yn fy ngwlad i"
Wedyn lluchiodd y Sais botal o wisgi dros ochr y gwch, gofynnodd y Cymro "pam nesd di huna?" atebodd "achos mae yna ormod o heina yn fy ngwlad i"
Nesaf lluchiodd y Cymro y Sais dros ochr y gwch, gofynnodd y Gwyddal "pam nesd di huna?", atebodd "achos mae yna ormod o heina yn fy ngwlad i"
Postiwyd:
Sul 15 Chw 2004 11:39 pm
gan Rhydian Gwilym
pob parch on braidd yn "predictable" erbyn y diwedd ond digon i ddod a gwen i'ng ngwynab!
Postiwyd:
Llun 16 Chw 2004 11:37 am
gan 'Nialwch
Beth yw'r gwahanieth rhwng ci marw yng nghanol y ffordd, a Saes marw yng nghanol y ffordd?
Ma na "skid marks" o flaen y ci.
Postiwyd:
Llun 16 Chw 2004 3:40 pm
gan Dr Gwion Larsen
Rhydian Gwilym a ddywedodd:pob parch on braidd yn "predictable" erbyn y diwedd ond digon i ddod a gwen i'ng ngwynab!
O leiaf ma'na joc ynddi Rhydian
Postiwyd:
Maw 17 Chw 2004 4:05 pm
gan Sleepflower
Sut fedrwch achub Sais rhag foddi?
Tynnu'ch troed oddi ar ei ben!
Sori, dwi ddim yn meddwl hwnna o gwbwl.
Postiwyd:
Maw 17 Chw 2004 4:08 pm
gan Dr Gwion Larsen
Wan dwin shwr mai nid o "gracyrs" ddoth y jocs yna ma rhain yn rhai da yn arbennig yr un sais a cî da iawn bawb!