Tudalen 3 o 5

PostioPostiwyd: Iau 15 Ebr 2004 10:37 am
gan Meic P
Pa gamp sy'n cael ei chwarae yn y gemau blynyddol rhwng Pwllheli a Porthmadog?


Criccieth!!!! :D :D :D

Delwedd

PostioPostiwyd: Iau 15 Ebr 2004 11:07 am
gan Garnet Bowen
Lowri Larsen a ddywedodd:Oddna Sais Gwyddal a Cymro ar gwch.

Yn gyntaf nath y Gwyddal luchio datws dros ochr y gwch, gofynodd y Sais wrtho "pam nesd di huna?", atebodd "achos mae yna ormod o heina yn fy ngwlad i"

Wedyn lluchiodd y Sais botal o wisgi dros ochr y gwch, gofynnodd y Cymro "pam nesd di huna?" atebodd "achos mae yna ormod o heina yn fy ngwlad i"

Nesaf lluchiodd y Cymro y Sais dros ochr y gwch, gofynnodd y Gwyddal "pam nesd di huna?", atebodd "achos mae yna ormod o heina yn fy ngwlad i"


'Nialwch a ddywedodd:Beth yw'r gwahanieth rhwng ci marw yng nghanol y ffordd, a Saes marw yng nghanol y ffordd?
Ma na "skid marks" o flaen y ci


Sleepflower a ddywedodd:
Sut fedrwch achub Sais rhag foddi?

Tynnu'ch troed oddi ar ei ben!

Sori, dwi ddim yn meddwl hwnna o gwbwl.


Bol cwrw a ddywedodd:Be di'r gwahaniaeth rhwng spid bymp a sais pissed sy'n ganol lon? Sa chi'n arafu ar gyfer spid bymp.


Yr unig beth ydi'r rhain ydi jocs hiliol Saesneg, a mi yda chi wedi newid y gair Paki am Sais. Ffycin gwarthus.

Be am hon - joc Gymraeg go iawn...........

Mae dyn yn cerdded i mewn i siop, ac yn gofyn

"Gai baced o fisgedi os gwelwch yn dda"

a mae dyn y siop yn ei ateb

"Mond Ryvita sydd gynno ni, sori"

"Mae'n iawn, rei i fyta dwi ishio"
:wps:

PostioPostiwyd: Iau 15 Ebr 2004 11:23 am
gan Meic P
Cywrain Garnet - Wel sed!

piti fod dy joc yn shit :winc:

C'laen bobl, meddyliwch am jocs go iawn - ddim rw shit sy'n cael ei ddeud yn Seasneg am Wyddelod neu bobol du!

PostioPostiwyd: Iau 15 Ebr 2004 11:49 am
gan joni
Sut ma gwneud i Serbian chwerthin?


Cosa fo.

PostioPostiwyd: Iau 15 Ebr 2004 12:27 pm
gan bartiddu
Digwyddiad go iawn yw hwn!
A pam glywais i e y tro cynta..pam cwympodd y geiniog oni yn fy nhwble! :D

Ocshiwn yn mynd mlaen, ar neuadd yn llawn stwr a gwaeddu a hwyl, fel mae ayb....
Yr Arwerthwr mofyn dechre pethe ac yn syllu ar hen wag yn y dorf, ac yn cydio mewn hen pot pisho a gwaeddu arno "Dere mlan nawr Dai, peth ti mynd i gynnig am hwn da fi?" (chwerthin yn y dorf ayb)

Dai " O sai moin y blydi thing 'na...ma crac yndo fe!"

Arwerthwr " Crac? Diawl dim crac yw e 'ychan, Blewyn yw e!"

Dai "Os ma' blewyn yw e gwd boi..........dyw'r crac ddim yn bell!"



(meddyliwch amdani) :D

PostioPostiwyd: Iau 15 Ebr 2004 1:08 pm
gan løvgreen
Stori go iawn ydi hon hefyd. (oedd hi yn Papur Dre)

Criw o genod o Gaernarfon wedi bod yn gweld Justin Timberlake yn Manceinion. Ar ol dod adre oedden nhw i gyd yn deud mor ffantastic oedd o, a dyma un yn deud "Ma'n well gen i Dido".
A dyma Nain y genod yn deud "Duw o'n i'm yn gwbod fod 'i daid o'n canu hefyd..."

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 1:31 pm
gan carwyn
oes 'na rywun arall di clywed hyn-ma nhw'n meddwl symud y london eye rwan, achos bod hype y mileniwm 'di bod, ma nhw'n symud o i fangor, a'i alw fo'n...wait for it...bangor aye! :rolio:

be dach chi'n galw dau ddrym a symbal yn cwmpo lawr clogwyn? bydwm-tss! :D

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 1:31 pm
gan Meic P
Be ti'n galw boi sy'n gofyn am hanner drym kit?


Gai Toms!

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 1:43 pm
gan mam y mwnci
be ti'n galw dyn sy'n edrych ar ol cwningen ?

mae'n dibynu (mind the bunny!!!)

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 12:00 pm
gan carwyn
ma hon yn stori wir (yn nol fy nghefnder...) mae'n un ddigon tebyg i'r un "ti di beni?" ar c'mon midffild...

ma'r tri ohonyn nhw'n penderfynu mynd i'r ganolfan hamdden ryw brynhawn, am swim bach yn y pwll nofio. ma nhw'n dod at y dderbynfa, a ma'r ddynes tu ol y cownter yn gofyn "gym?", a ma 'r boi yn troi ati a mynd, "naci, iwan 'dwi"
ma rhaid i chi nabod o er mwyn ca'l y joc yn ei holl gogoniant :)


be sy'n well na brechdan gaws?...dwy.