Tudalen 4 o 5

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 1:14 pm
gan mam y mwnci
be 'da chi'n galw dyn seciwrati o'r eidal , sy'n cael ei gyflogi i edrych ar ol eich arian?

carca m'wch i

Barang tching!

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 3:35 pm
gan Rhys
Aeth dynes yn ddi-rybudd i ymweld â’i mab oedd newydd briodi. Canodd gloch y drws a cherdded mewn.

Cafodd sioc o weld ei merch-yng-nghyfraiff yn gorwedd ar y sofa yn noeth. Roedd cerddoriaeth tawel yn chwarae yn y cefndir ac roedd arogl persawr yn llenwi’r ystafell.

“Beth wyt ti’n wneud?” gofynodd y fam.

“Dwi’n disgwyl fy ngwr i ddod adref o’i waith” atebodd y ferch-yng-nghyfraith.

“Ond mi wyt ti’n gwbwl noeth!” gweiddodd y fam.

“Dyma fy ngwisg CARU” esboniodd y ferch-yng-nghyfraith.

“Dy wisg Caru? Ond rwyt ti’n noeth!”

“Mae fy ngwr wrth ei fodd pan dwi’n gwisgo’r wisg hon ac mae’n ei yrru’n gocwyllt” meddai’r ferch. “Bob tro mae’n fy ngweld yn y wisg hon, mae’n bod yn rhamantus ac yn fy ffwcio’n racs am oriau. Gall o ddim cael digon ohonaf”

Aeth y fam-yng-nghyfraith adref, dadwisgo, cymeryd cawod, gwigso ei phersawr gorau, pylu’r goleadau, rhoi CD rhamantus ymlaen a gorwedd ar y sofa i ddisgwyl ei gwr adref.

Cerddodd ei gwr i mewn a’i gweld yn gorwedd mewn modd pryfoclyd.

“Beth wyt ti’n ei wneud?” gofynodd.

“Dyma fy ngwisg CARU” sibrydodd wrtho’n gnawdol.

“Mae o angen ei smwddio,” meddai. “Beth sydd i swper?”

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 8:44 pm
gan Wierdo
dim un fi di hwn...ond

manwn meddwl codi gwestu yn ymyl chwarel dorothea ond di'r boi sydd yn mynd i dalu ddim yn shwr iawn eto; mae o'n dipyn o ddeif yntydi....

oddon well ar ypryd efallai?

un canibal fi di gora...dwi di deud o mewn edefyn arall ond mots..

Be ma cannibal yn neud rol dympio'i gariad?
Sychu'w din
:lol: :lol: :lol: :lol: :lol:

PostioPostiwyd: Gwe 23 Ebr 2004 10:36 pm
gan carwyn
ma ffarmwr yn gweld heiciwr yn ei gae, yn yfed dwr allan o ffos gyda'i law, ma'r ffarmwr yn gweiddi allan: "paid ag yfed y dwr 'na! ma'n fudur a mi ddali di afiechydon!!"
ma'r heiciwr yn troi ato fo a gofyn: "sorry what did you say?"
"i was just saying - that you should use both hands to cup it, so that u can drink more at a time..." :D

PostioPostiwyd: Sad 24 Ebr 2004 8:31 pm
gan Wierdo
lol!!!! :lol: :lol: :lol: dwi di clwad honna gymaint o weithia o'r blaen ond mae o dal yn wyych!

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2004 9:30 pm
gan GringoOrinjo
beda chi'n galw dyn llefrith Eidaleg?
Toni Torripotelli.

bedachi'n galw dyn tan o Rwsia?
Ivan Watchaloski.

hen jôcs.

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 7:49 am
gan Gowpi
Be' 'da'ch chi'n galw Japani sy'n gwbo' popath?

Ddudish i 'ndo :lol:

Jocs amaethyddol

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 10:58 am
gan Clarice
"Wyt ti'n bwyta bîff?"
"Bues i..."

"Wyt ti'n bwyta lamb?"
"Oen i..."

jôcs

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 12:38 pm
gan elena mai
be ddudodd iesu grist ar dydd gwenar groglith??

Peidiwch a byta'n wya pasg i, dwi'n nôl dydd Sul!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!

diolch i ffion meleri am y jôc!!!

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 12:53 pm
gan S.W.
Cyfieuthiad di'r joc yma allan o gylchgrawn ond mi newidiai hi iw wneud yn perthnasol i Gymru.

Dau ddyn Twm a Bob wedi bod yn yfed trwy'r dydd yn y Llew Du yn Aberystwyth, y ddau wedi meddwi'n racs. Y peth nesa mae Twm yn chwydu dros ei grys ei hun.

Twm: "O shit, be wnai, nes i addo wrth y wraig na fyddwn in mynd mewn i'r fath stâd heno"
Bob: "Paid a phoeni Twm, dyrro £10 yn poced dy got, cer adre a duda wrth y wraig bod rhyw feddwyn di cerdded heibio ti, di chwydu drostat a di rhoi £10 i dalu am ei lanhau, bydd hi dim callach."

Felly, mae'r ddau yn parhau i yfed. Am 11:00 mae'r barman yn taflu nhw allan felly adre a nhw.

Mae Twm yn cerdded mewn iw dy a pwy sy'n aros amdano ydy'r wraig
"Be ddiawl ti di bod yn neud, nes i ddeud wrthat ti am beidio mynd mewn i'r fath stad"

Twm: Dim fi oedd o, rhywfoi, spia yn fy mhoced a rhoddodd £10 i lanhau o.

Mae ei wraig yn edrych yn ei boced ac yn tynnu 2 papur £10 allan.

"Pam bod yne ddau yn dy boced di?"

Twm: "O, nath o gachu yn fy nhrwsus i hefyd"