Cyn bo’r ysgol yn torri lan am y prynhawn, ma’r prifathro yn atgofa’r plant I fod yn brydlon y bore canlynol oherwydd eu bod yn gadael yn gynnar ar drip yr ysgol.
“A pheidiwch anghofio eich phecyn brechdannau ‘fori blant” medde fe.
Y bore wedyn tra bod y rhieni yn dod a’i plant i’r ysgol, ma un tad di-gymraeg yn dod lan at y prifathro mewn tymer ddrwg ac yn dweud wrth y prifathro rhywbeth tebyg i “Hey! What on earth are you teaching my child in the classroom, she came home last night and said that you had told the class to bring their Fucking sandwiches tomorrow!”
A dyna lle roedd yr hen brifathro druan yn gorfod egluro rheolau treiglo cymraeg i’r tad!
