Tudalen 5 o 5

Jocs Cymraeg

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 11:54 pm
gan Cymro13
Hen jocs
Be ti'n galw boi o Bala sy'n dwyn ceir

WA 'n car

Beth mae dad yn cael i frecwast
mam-ar-led

jocs Cymraeg

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 1:11 am
gan Cymro13
YSGOL CWM-COCH
Sais bach yn dod adre o ysgol gynradd Cwm-coch, ac yn gweud yn yr iaith fain wrth ei fam,
"Dysgon nhw i ni heddi sut i gyfri yn Gymraeg. A fi oedd y gorau! Dim ond hyd at bump o'dd y lleill yn gallu mynd, ond o'n i'n gallu cyfri hyd at ddeg. Gwrando, mami - un, dau, tri, pedwar, pump, chwech, saith, wyth, naw, deg!"
"Da iawn, machgen i."
"Ai oherwydd taw Sais w i mod i'n gwneud yn well na nhw?"
"Ie, wrth gwrs, machgen i. Ryn ni'r Saeson ym maeddu'r Cymry bob tro."
Y diwrnod wedyn, dyma'r Sais bach yn dod nôl o ysgol gynradd Cwm-coch, ac yn gweud yn yr iaith fain wrth ei fam,
"Dysgon nhw i ni heddi sut i ddweud yr abiéc. A fi oedd y gorau! Dim ond hyd at 'D' o'n nhw'n gallu mynd, ond o'n i'n gallu dweud hyd at 'G'! Gwrando, mami - A, B C, CH, D, DD, E, F, NG, G!"
"Da iawn, machgen i."
"Ai oherwydd taw Sais w i mod i'n gwneud yn well na nhw?"
"Ie, wrth gwrs, machgen i. Mae'r Saeson yn glyfrach o lawer na'r hen Welshis twp 'na."
Y diwrnod wedyn, dyma'r Sais bach yn cyrraedd adre o ysgol gynradd Cwm-coch, ac yn gweud yn yr iaith fain wrth ei fam,
"Dysgon nhw i ni heddi am droedfeddi a modfeddi. A bu rhaid gweud pa mor dal w i , a fi oedd y tala! Ro'n i'n dalach o ddwy droedfedd na gweddill y dosbarth!"
"Da iawn, machgen i."
"Ai oherwydd taw Sais w i mod i'n dalach na nhw?"
"Nage, cariad bach. Chwech oed ÿw pawb arall, ond saith ar hugain wÿt ti."

PostioPostiwyd: Iau 15 Gor 2004 4:04 pm
gan bartiddu
Thema ysgolig ar hon hefyd, a chant y cant yn wir!

Cyn bo’r ysgol yn torri lan am y prynhawn, ma’r prifathro yn atgofa’r plant I fod yn brydlon y bore canlynol oherwydd eu bod yn gadael yn gynnar ar drip yr ysgol.
“A pheidiwch anghofio eich phecyn brechdannau ‘fori blant” medde fe.
Y bore wedyn tra bod y rhieni yn dod a’i plant i’r ysgol, ma un tad di-gymraeg yn dod lan at y prifathro mewn tymer ddrwg ac yn dweud wrth y prifathro rhywbeth tebyg i “Hey! What on earth are you teaching my child in the classroom, she came home last night and said that you had told the class to bring their Fucking sandwiches tomorrow!”
A dyna lle roedd yr hen brifathro druan yn gorfod egluro rheolau treiglo cymraeg i’r tad!
:)

Re: jôcs

PostioPostiwyd: Iau 22 Gor 2004 3:04 pm
gan Iesu Nicky Grist
elena mai a ddywedodd:be ddudodd iesu grist ar dydd gwenar groglith??

Peidiwch a byta'n wya pasg i, dwi'n nôl dydd Sul!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!



Wel, a dweud y gwir Elena fach, nid dyna beth y ddwe'dais i. Fy ngeiriau i oedd -

"Fi mynd i ga'l 'y'm ffacin croeshoelio ymhen rhyw awr fach, ond ma' Father wedi addo byddai nol erbyn dydd Sul os arhosa'i 'in the zone'...yo Judas dere 'ma am gusan fach ya fuckin' dirty tricks, back-stabbin' cunt...yo kids, b-e-l-i-e-v-e, believe bra, the word is good..."

Ond beth bynnag, joc Gymra'g -

CWESTIWN: Beth yw'r gacen gryfa yn y byd?

ATEB: Mike Teisen

Re: jôcs

PostioPostiwyd: Iau 22 Gor 2004 3:39 pm
gan Sleepflower
Iesu Nicky Grist a ddywedodd:
CWESTIWN: Beth yw'r gacen gryfa yn y byd?

ATEB: Mike Teisen



Son am baffwyr, mae Frank Bruno wedi dod allan a mec newydd o toasters, er mwyn dilyn llwyddiant Geoge Foreman gyda'i grils. Ma nhw'n olreit i ddechrau, ond yn ffycd ar ol tri rownd! :lol:

PostioPostiwyd: Iau 22 Gor 2004 4:09 pm
gan Ray Diota
carwyn a ddywedodd:oes 'na rywun arall di clywed hyn-ma nhw'n meddwl symud y london eye rwan, achos bod hype y mileniwm 'di bod, ma nhw'n symud o i fangor, a'i alw fo'n...wait for it...bangor aye! :rolio: :D


Ma nhw'n meddwl symud e i Japan fyd... :winc:

PostioPostiwyd: Mer 28 Gor 2004 12:10 am
gan Rhodri Nwdls
Be ti'n galw boi drwg ar dop y grisia?

Osama Ben Landing

PostioPostiwyd: Llun 09 Awst 2004 4:00 pm
gan denzil dexter
dyn yn cerdded mewn i siop, ac mae'n gofyn i'r boi tu ol y cowntyr - " esgusodwch fi os gwelwch yn dda, ond ydech chi'n gwerthu gwenyn??"
"nacyden sori, siop fwyd ydi hon"
"ie",medde'r boi, "ond mae na llwyth o rai yn y ffenest...." :rolio:

Re: Jôcs Cymrâg

PostioPostiwyd: Iau 22 Medi 2011 9:32 pm
gan peri
Un nos, yr oedd dyn tlawd a benderfynodd droi at fywyd o ddrwg weithiau. Torrodd i mewn i ardd ty enfawr a wal fawr o'i gwmpas, a dechrau cerdded yn araf tua'r ty.

Yn sydyn, clywodd lais yn dweud, "Mae Iesu yn dy wylio di."

Arhosodd y dyn am funud, a meddwl ei bod e wedi dychmygu'r llais. Ail ddechreuodd gerdded, a chlywed y llais unwaith eto yn dweud, "Mae Iesu yn dy wylio di."

Dechreuodd feddwl mai ei gydwybod oedd yn siarad efo fo. Edrychodd o'i gwmpas ac o'r diwedd gwelodd barot mawr yn eistedd ar gangen.

Dywedodd y dyn wrtho, "Ti 'wedodd, 'Mae Iesu yn dy wylio di?'"

"Ie," atebodd y parot.

"Beth ydy dy enw di?" gofynnodd y dyn.

"Pinocchio," oedd yr ateb.

"Pinocchio? Pa fath o ynfytyn fasai'n galw ei barot yn Binocchio?"

"Yr yn fath o ynfytyn fasai'n galw ei ddoberman yn Iesu," oedd ateb y parot.