Diwrnod Dwynwen

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Diwrnod Dwynwen

Postiogan Siani » Sul 30 Maw 2003 12:24 pm

Welodd unrhywun arall y dramau hyn? Chwech drama fer gan awduron yn sgrifennu ar gyfer y llwyfan am y tro cyntaf. Prosiect Sgript Cymru. Maen nhw'n dweud y bydd hyn yn brosiect blynyddol - mae'n wych bod rhywun yn rhoi cyfle i awduron newydd dorri i mewn i'r maes.

Roedd y chwech yn wahanol i'w gilydd, a rhai yn llwyddo yn well na'i gilydd. Y ddwy oedd wedi cyffwrdd a fi'n emosiynol fwyaf oedd "Hugo" Fflur Dafydd a "Dwy Wylan" Dafydd Llewelyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Siani
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Sad 31 Awst 2002 9:01 pm
Lleoliad: Abertawe

Postiogan Manon Wyn » Llun 07 Ebr 2003 10:53 pm

do, nesh i weld o. o'n i ar y cwrs ddaeth cyn y cynhyrchiad, ac mi oedd o'n ddifyr gweld sut oedd y dramau 'di newid. dwi'n ffridia mawr hefo'r rhan fwya o'r awduron, felly ma'n anodd dewis ffefryn, ond beryg mai un dafydd o'dd gora gin i hefyd, ac mi oedd un nia'n eitha pwerus - yr un am y pysgodyn 'di marw, roedd y ddrama'n un gwbl newydd i'r un o'dd hi'n weithio arno fo yn nhy newydd!
falch bo chdi di mwynhau, na i basio'r neges 'mlaen!!!
Manon Wyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Gwe 14 Maw 2003 2:40 pm
Lleoliad: Llandwrog ac Aberrrrrr

Postiogan Siani » Maw 08 Ebr 2003 5:41 pm

Do, mwynheuais i, ac es i a chriw o fyfyrwyr Cymraeg (Ail Iaith) lefel A ac roedd eu hymateb nhw yn bositif hefyd. Ro'n i'n poeni braidd achos taw ail iaith o'n nhw, ond gan fod cymaint o amrywiaeth yn y dramau, a bod y cynhyrchiad i gyd ddim yn rhy hir, ro'n nhw wedi ymdopi a mwynhau. Cawson ni drafodaeth brwd y bore wedyn - pawb a'u ffefryn personol eu hunain, a phawb yn dewis un wahanol!

Gwnaeth yr actorion yn arbennig o dda hefyd gyda'r dasg anodd o greu hyd at chwech cymeriad gwahanol yn yr un cynhyrchiad, ac ymdopi gyda'r amrywiaeth mewn tafodieithoedd ac acenion.
Rhithffurf defnyddiwr
Siani
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Sad 31 Awst 2002 9:01 pm
Lleoliad: Abertawe


Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron