Hoff adeilad?

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Hoff adeilad?

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 21 Meh 2004 1:48 pm

Eich Milltir Sgwâr, sef ymgyrch gan Gomisiwn Dylunio Cymru i gael pobl i enwebu eu hoff adeiladau neu fannau ledled Cymru.

Heb benderfynu ar unrhyw beth eto - mae cynifer o lefydd ac adeiladau gwych ledled Cymru y gallwn ni eu henwebu - Castell Caerffili, Eglwys Gadeiriol Tyddewi, glan môr Aberaeron gyda'r tai amryliw... Beth amdanoch chi?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Lletwad Manaw [gynt] » Llun 21 Meh 2004 1:49 pm

Ystrad Fflur sdim dowt!!!!
BETH AM BOBI FASNED O DE!!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Lletwad Manaw [gynt]
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 257
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 12:46 pm
Lleoliad: Falle draw fynco rhywle.........

Postiogan Geraint » Llun 21 Meh 2004 1:56 pm

Castell Powys. Castell Harlech, Conwy, Caernarfon, Dolforwyn (oce unrhyw gastell ma nhw gyd yn wych)

Sycharth

Mynachdy Cwm-Hir yn lle arbennig iawn, er does dim llawer o'r adeilad ar ol.

Adeilad ymladd ceiliogau yn sain ffagan yn un bach da.

Caslell Henllys yw un o fy hoff lefydd, i drio dychmygu bywyd yng Nhgymru yn yr oes haearn
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Mr Gasyth » Llun 21 Meh 2004 1:59 pm

Lletwad a ddywedodd:Ystrad Fflur sdim dowt!!!!


Eh?? Dwi'n siwr fod y lle reit 'impressive' tua 500 mlynedd yn ol, ond rwan does na ffyc ol i weld yno nagoes, jest adfail.
Fues i yno chydig wsnose nol, wedi bod yn bwriadu mynd ers blynyddoedd, a'i gael yn siomedig iawn.

Ma adeilad yr hen ysbyty meddwl yn Ninbych yn dal i fod yn drawiadol iawn, er ei fod yn mynd a'i ben iddo'n ara deg gwaetha'r modd. Adeilad anferth, urddasol gyda lot o hanes a rhyw ias oer ysbrydol yn perthyn iddo hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Lletwad Manaw [gynt] » Llun 21 Meh 2004 2:09 pm

Tybed faint o olion fydde ar ol o Sbyty Meddwl Dinbych 1,000 o flynedde o nawr!!! Yn enwedig o gofio fod Ystrad Fflur wedi cael ddinistrio droeon a'i chwalu adeg Diddymu'r Mynachlogydd. Yn ol dy gyfaddefiad dy hun mae 'Sbyty Dinbych yn mynd a'i ben iddo a pryd adeiladwyd y lle 18??!!! Sefydlwyd Ystrad Fflur yn 1164!!!! Pa syndod fod y lle ddim yn edrych cweit fel ag yr oedd nol yn y 12 ed ganrif!!! Ta beth, o leia ma chydig mwy o raen pensaerniol cynhenid ar y lle, gellir dweud yr un fath am nuthouse Dinbych??

"Pan rodiwyf daear Ystrad Fflur,
Om dolur ymdawelaf"

T.Gwyn Jones
BETH AM BOBI FASNED O DE!!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Lletwad Manaw [gynt]
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 257
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 12:46 pm
Lleoliad: Falle draw fynco rhywle.........

Postiogan Geraint » Llun 21 Meh 2004 2:12 pm

I fod yn deg ma'r we-fan yn gofyn am hoff fan neu adeilad. Ma na awyrgylch arbennig i lleoliadau fel Ystrad Fflur, er does dim llawer o'r adeilad ar ol.

Dim ond tomen o bridd sydd yn sycharth, ond mae'n le arbennig sy'n anfon ias lawr fy nghefn.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Lletwad Manaw [gynt] » Llun 21 Meh 2004 2:19 pm

Felly dyw adfeilion Cestyll y Saeson ddim yn cwfri chwaith na? Ta beth, wi'n credu dylse lot o "benseiri" gymryd pip ar sgiliau pensaerniol yr oesoedd a fu i weld crefftwaith o safon uchel. I ddweud y gwir ma pensaerniaeth newydd cymaint o'n pentrefi/trefi/dinaethoedd ni yn hollol shit. Edrychwch ar fae bondigrybwyll Caerdydd, shithole or radd flaenaf gyda adeiladau cach a coch!!! (heblaw canolfan y mileniwm). Bwthyn Ffynnon Oer ger Temple Bar yn enghraifft dda o adeilad o safon serch hynny!!
BETH AM BOBI FASNED O DE!!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Lletwad Manaw [gynt]
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 257
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 12:46 pm
Lleoliad: Falle draw fynco rhywle.........

Postiogan Cardi Bach » Llun 21 Meh 2004 2:24 pm

O ran pensaerniaeth ma adeilad Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon yn rhagorol.

Garn Goch yn Nyffryn Ceidrych, Llangadog yn le hynod i fod ynddo, er mai dim ond cerrig sydd yno bellach.

Ffermdai Gallestra, Cae Einion, Glasdir, Taldir ac ati yn Islawr Dre yn odidog hefyd.

Y driongl o Carreg Cennen-Dinefwr-Dryslwyn.

Weles i'r hen hen ffermdy yma yn Llanbadarn bythefnos yn ol hefyd - pensaerniaeth hyfryd iddi.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 21 Meh 2004 2:49 pm

Anghofies i hefyd sôn am Weithfeydd Blaenafon, yn enwedig olion y brif ffwrnes. Mae wir yn rhoi teimlad i chi o sut roedd y cymoedd am ran fwyaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif, a maint aruthrol y gweithfeydd. The dark satanic mills ac ati.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Lletwad Manaw [gynt] » Llun 21 Meh 2004 2:57 pm

Be am y Dafarn yna yng Nghwyddelwern yn y Gogs yr un a tho gwellt ag sydd a thrawstiau pren mawr. Y lle yn fwyty hefyd dwi'n credu. Yr un gath ei adfer ychydig flynyddoedd yn ol. Rhywun yn gwbod enw'r lle yma, wi wedi anghofio.
BETH AM BOBI FASNED O DE!!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Lletwad Manaw [gynt]
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 257
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 12:46 pm
Lleoliad: Falle draw fynco rhywle.........

Nesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron