O'r wefan <a href= "http://www.theatre-wales.co.uk/currentshows/index.asp"> theatre-wales </a>:
Be' oedd enw ci Tin Tin?
Bara Caws
Actorion: Bryn Fôn, Gwen Ellis, Rhodri Meilir, Awen Wyn Williams
Cyfarwyddwr: Hugh Thomas
Cynllunydd: Emyr Morris-Jones
“Pwy? Sut? Pam? Y tri chwestiwn cyntaf yn litani’r heddwas. Tri chwestiwn all agor llifddorau môr o atebion. Mae hen wraig wedi ei
llofruddio a’i merch sengl ganol oed, Anna, sydd dan amheuaeth o’i lladd. Wrth gwrs mae’r heddlu’n gweithio’n ddygn, ond yn nrama gref Aled Jones Williams mae pawb yn euog o rywbeth, a phawb angen cuddio’r gwir…..”
Unwaith eto mae Aled Jones Williams yn ein harwain i fannau dyrys bywyd i ardal lwyd a chignoeth lle nad oes atebion hawdd, ac unwaith eto mae’n gwneud hynny mewn ffordd theatrig unigryw yn llawn crio, chwant a chwerthin.
NODER: Mae’r ddrama yn cynnwys iaith gref.
(am fwy o fanylion y daith ffoniwch Linda Brown 01286 676335)
on tour from 25 April 2003 to 17 May 2003
Mae gen i raglen dwi wedi'i sganio, os medra i ffeindio allan sut i bostio llun, mi wna i