gan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 12 Mai 2003 9:29 am
Es i i weld y ddrama nos Sadwrn ac mae'n sicr yn werth ei gweld. Mae'r ddrama'n gymhariaeth ddiddorol o sefyllfa brodorion Gogledd America a'r sefyllfa yng Ngogledd Orllewin Cymru. Actio da iawn, yn fy marn i, ond mae'n weddol amlwg nad Saesneg yw iaith gyntaf Povey, gan nad yw'r sgript yr un mor rymus a'i waith yn y Gymraeg.