Coedan Fala a ddywedodd:Geraint does neb wedi ateb fy ngwestiwn innau ers dipyn sef pwy sydd yn mynd i forol fod Aelwyd y Brifysgol yn mynd i barhau unwaith y byddi di a Huw Bach wedi gadael a mynd nol i dy ardal enedigol(os yn wir dyna be nei di!). Does gan Brifysgol Gaerdydd ddim dyfal barhad a "stick" lle bo aelwydydd a chymdeithasau newydd yn y cwestiwn. Mae JMJ a Phantycelyn yn dda fel yna. Mae rhaid cael pwyllgor cryf a phenderfynol i wneud aelwyd i lwyddo a dwi'n gwybod y gnei di a Huw Bach weithio ond beth am y gweddill? Ydy nhw yn gydwybodol a gweithgar fel chi? Rhywbeth iti feddwl am yr hen gyfaill!
Efo agwedd felna, ella dyle ni i gyd stopio siarad Cymraeg hefyd, ta? Achos pwy sy'n mynd i gario mlaen unwaith y byddwn ni i gyd wedi mynd? (tafod yn y boch, gyda llaw, rhag i finnau hefyd gael fy ngham-ddehongli)
Gyda phob parch i Huw Psych a'i gyd-weithwyr caled, dylai beth wyt ti'n ei drafod uchod gael ei drafod wrth gynllunio cyfansoddiad a sefydlu aelwyd yn y lle cynta, a dwi ddim yn meddwl y dyle unrhywun danseilio galluoedd y myfyrwyr yma i wneud hynny'n gymwys. Wedi'r cwbl, gellid bod wedi dweud yr un peth am CF1 cyn iddi gael ei sefydlu. Mae ystyried arferion cyn-fyfyrwyr Caerdydd nad oedd