Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd
ElinorSian82 a ddywedodd:Mae aelwyd CF1 yn aelwyd gwych sy'n rhoi cyfle i BAWB o Gaerdydd (sydd am gymryd y cyfle) i gymdeithasu, canu a joio trwy gyfrwng ein hiaith nefolaidd.
Tegwared ap Seion a ddywedodd:Pan ma ganddo chi bobl yn 'sgwennu petha' fel hyn dio wir ddim yn helpu'r achos
PwdinBlew a ddywedodd:Tegwared ap Seion a ddywedodd:Pan ma ganddo chi bobl yn 'sgwennu petha' fel hyn dio wir ddim yn helpu'r achos
Handbags!!
Be oedd y neges gath ei ddileu gyda llaw?
CF1 LLAWER GWELL AELWYD NA CHI DA I DDIM
garetshyn a ddywedodd:Rwy’n aelod o CF1 ac, o nabod yr aelodau, fe fyddwn i wedi fy synnu a’m siomi’n fawr os yw’r neges yna wir wedi ei hanfon gan aelod o’r aelwyd. Yn sicr, dim dyna yw teimladau unrhyw aelod o CF1 rwy i wedi siarad â nhw ac, a dweud y gwir, fe fues i’n siarad gyda sawl person dros y penwythnos oedd yn canmol mor dda mae aelwyd yr ynys wedi gwneud i ddatblygu a chael cystal llwyddiant mewn amser cymharol fyr ers sefydlu’r aelwyd. Mae’n nhw wir i’w llongyfarch.
Llongyfarchiadau hefyd iddyn nhw am ddod yn ail yng nghystadleuaeth y côr mawr
Rwy’n hyderus mai rhywun sy’n trio cynhyrfu’r dyfroedd drwy anfon neges felna yn enw CF1, ac rwy’n siŵr y bydd aelodau aelwyd yr ynys yn ddigon call i sylweddoli hynny.
Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 26 gwestai