Iawn ta. I ddechrau, dyma fy mhost cyntaf yn maes-e a mae o'n eitha boncyrs. Fy syniad I ydi I gyfieithu gem bêl droed gyfrifiadurol fel FIFA neu PES i'r gymraeg. Os ydi o am ddigwydd mae hi am fod yn broses anodd a hir, ond yn un posib yn fy marn i.
Buaswn I yn recordio gemau Uwch Gynghrair Cymru I gael sylwebaeth Nic Parri a Malcolm Allen (dychmygwchy ddau yma yn sylwebucar fifa! Pethau fel 'na mae breuddwydion wedi eu gwneud ohonynt). Fodd bynnag, dwi angen rhywun all roi'r recordiau hyn ar y gem. Mae hyn yn bosib dwi'n meddwl, ond ei fod yn broses hir ac anodd iawn, gan fod angen amnewid y clipiau gyda'r rhai gwreiddiol.
Felly, oes rhywun yn gêm? Os ydych chi'n 'nabod rhyun sy'n dda hefo pethau fel 'ma, gadwch fi wbod.
Neu, Os dachi'n meddwl 'mod i'n mental a fod dim pwynt, peidiwch a dal yn ôl. Diolch maes-e!